7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Charity Elusen y GIG yn darparu £12,000 ar gyfer ystafell chwarae newydd yn...

Elusen y GIG yn darparu £12,000 ar gyfer ystafell chwarae newydd yn ward plant

0
511
New play room Cilgerran Ward Glangwili picture 2 min
New play room Cilgerran Ward Glangwili picture 2 min

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu rhoi £12,000 i ddarparu ystafell chwarae newydd ar gyfer ward plant Cilgerran yn Ysbyty Glangwili, diolch i’ch rhoddion.

Mae elusen y GIG wedi prynu byrddau y gellir addasu eu huchder ar gyfer gweithgareddau chwarae, byrddau ystafell ddosbarth, byrddau bach a chadeiriau mewn coch a phorffor, soffa, cypyrddau storio y gellir eu cloi ar gyfer offer chwarae, cypyrddau celf a chypyrddau llyfrau.

Mae yna hefyd pod synhwyraidd, sy’n creu amgylchedd diogel, therapiwtig i blant ag anghenion ychwanegol, fel y gallant deimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn gweithgareddau yn yr ystafell chwarae. Ac mae offer chwarae newydd i annog datblygiad corfforol.

Darparwyd hefyd goleuadau disgo a seinyddion, ciwbiau synhwyraidd goleuo, teils llawr synhwyraidd, oferôls plant sy’n dal dŵr, matiau sblash, doliau a theganau addysgol.

Dywedodd Karen Thomas, Pennaeth Chwarae Therapiwtig: “Mae’n wych gallu sefydlu ystafell chwarae newydd ar y ward.

“Mae ystafell chwarae ddynodedig yn amhrisiadwy ac mae’r offer newydd hwn yn creu amgylchedd diogel, gan ganiatáu i bob plentyn ac oedolyn ifanc deimlo eu bod yn cael eu cynnwys, gydag ardaloedd ar wahân i blant a phobl ifanc yn eu harddegau.

“Mae gallu chwarae tra yn yr ysbyty yn golygu y gall plant a phobl ifanc barhau ag agwedd o’u bywyd normal. Mae chwarae yn gyfarwydd ac yn galonogol. Yn yr ysbyty, mae’n helpu plant i ddysgu a datblygu, ac i deimlo’n llai pryderus.

“Mae gan ystafelloedd chwarae rôl bwysig yn y broses iacháu a bydd yn helpu ein Tîm Chwarae Therapiwtig i weithio’n fwy effeithiol, gan helpu’r plant i ddeall eu triniaethau ac, yn bwysig, cael hwyl!”

New play room Cilgerran Ward Glangwili

Yn y llun yn yr ystafell chwarae newydd mae’r Cynorthwyydd Chwarae Owain Roach.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.