6.7 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home hywel dda health board Gwasanaeth Maeth a Deieteg Hywel Dda wedi enwi’r sgrinwyr maeth gorau

Gwasanaeth Maeth a Deieteg Hywel Dda wedi enwi’r sgrinwyr maeth gorau

0
337
894a234a82f1f8d0 org 1
894a234a82f1f8d0 org 1

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae gwasanaeth Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn cydweithrediad â’r timau Gwella Ansawdd a Datblygu Ymarfer, wedi derbyn canmoliaeth uchel am ei waith yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth diweddar. 

Mae diffyg maeth yn gyflwr difrifol iawn a all arwain at broblemau iechyd sylweddol, gan gynnwys cynyddu’r risg o gwympo, clwyfau sy’n gwella’n wael, colli cryfder, mwy o debygolrwydd o gael eu derbyn i’r ysbyty, arosiadau hwy yn yr ysbyty ac adferiad arafach. 

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth (MAW) yn fenter flynyddol yn y DU sy’n cael ei harwain gan Gymdeithas Brydeinig Maeth drwy’r Gwythiennau a’r Ymysgaroedd (BAPEN). Fel rhan o arolwg blynyddol cenedlaethol a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos, trefnodd aelodau o dîm Maeth a Deieteg y bwrdd iechyd yr arolwg sgrinio ar wardiau ysbytai ac mewn rhai lleoliadau cymunedol. 

Ar ôl casglu’r nifer uchaf o arolygon, enwyd tîm Sir Gaerfyrddin hefyd yn sgriniwr gorau yng Nghymru gan BAPEN. 

Dywedodd Emma Catling, Arweinydd Strategol Diffyg Maeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Perfformiodd ein timau ar draws y tair sir yn arbennig o dda ac rwy’n falch o’u hymrwymiad i gasglu’r data a chefnogi’r broses sgrinio faethol.”  

“Yn ogystal â chyfrannu at arolwg sylweddol ledled y DU, mae gennym hefyd bellach ddata lleol ystyrlon a fydd yn cael ei ddefnyddio i wella ein gwasanaethau gyda’r nod o atal diffyg maeth a helpu i ganfod a mynd i’r afael â phroblemau diffyg maeth yn gynnar.” 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.