8.4 C
Llanelli
Friday, February 27, 2026
Home Newyddion Lle Llythyr a gafodd ei ddatgelu’n dangos prif gynghorwyr Llafur yn rhannu barn...

Llythyr a gafodd ei ddatgelu’n dangos prif gynghorwyr Llafur yn rhannu barn Plaid Cymru y bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth yn gwahanu cymunedau

0
403
00 Llyr Gruffydd AC
00 Llyr Gruffydd AC

Dywed Llyr Gruffydd o Blaid Cymru y bydd toriadau i fysiau yn gadael cymunedau “heb opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus”

Mae llythyr a ddatgelwyd gan CLlLC wedi datgelu bod cynghorwyr Llafur blaenllaw yn credu y bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru i dorri arian bysiau yn gwahanu cymunedau.

Dywedodd yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, fod y llythyr yn dangos bod pryderon difrifol ei blaid am ddyfodol trafnidiaeth drwy Gymru gyfan yn cael eu rhannu gan gynghorwyr ym mhob rhan o Gymru ac anogodd y Llywodraeth Lafur i ailfeddwl am y toriadau ariannol.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, dyddiedig 13eg Mawrth, amlinellodd y Cynghorwyr Llafur Andrew Morgan a Rob Stewart, Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sawl mater ym mholisi cludiant “o’r brig i lawr” Llywodraeth Cymru, a oedd yn achosi “storm berffaith i gymunedau”, a dull o gyflwyno newid mewn polisi trafnidiaeth sydd cosbi yn hytrach na chefnogi.

Roedd y llythyr at y Prif Weinidog yn amlinellu sawl maes oedd yn peri pryder, gan gynnwys:

•         Yr Adolygiad Ffyrdd, lle roedd trafodaethau cyfyng iawn gydag Arweinwyr y Cynghorau, a hynny wedi i’r adolygiad ddod i’w gasgliadau, a’r “natur creu polisi wrth ddesg.”

•         Cynllunio “rhoi’r cart o flaen y ceffyl”, gan gyfeirio at y diffyg buddsoddiad mewn dewisiadau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus sydd eu hangen i annog pobl allan o geir ac ymlaen at drafnidiaeth gyhoeddus.

•         “Cynifer y materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth” sy’n gadael cynghorau o dan straen, gyda mwy o gynigion gan Lywodraeth Cymru yn rhoi staff priffyrdd a trafnidiaeth cynghorau o dan bwysau mawr. Codwyd bryder hefyd y byddai goblygiadau polisïau fel yr un 20mya ar drafnidiaeth ysgol a chynlluniau gwasanaeth gaeaf, gyda angen gwneud trefniadau ar gyfer shifftiau hirach.

•         Pryderon cefn gwlad, ble nad oes gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai ardaloedd – a sgil effaith hyn ar ddatblygiad economaidd, a lle mae teithio llesol “ddim yn opsiwn realistig”.

•         Anghydraddoldeb cymdeithasol a chadw mas llawer o drigolion lle mae “trafnidiaeth gyhoeddus yn ‘rhaff achub’ gan nad ydyn nhw naill ai’n gallu fforddio, neu’n methu, gyrru.”

•         Pryderon am ymddygiad y Dirprwy Brif Weinidog sydd wedi arwain at gynghorwyr i fod yn  “bryderus am natur y ddadl a thôn y cyfarfodydd”.

Cynhaliodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd ar ddyfodol y Cynllun Argyfwng Bysiau yn gynharach yr wythnos hon, a alwodd ar Lywodraeth Cymru i’r cynllun gael ei ymestyn am o leiaf 18 mis i ddarparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau ledled Cymru. Galwodd y cynnig hefyd ar y llywodraeth i gyflwyno opsiynau cyllido diogel hirdymor i gynnal gwasanaethau bws, yn hytrach na chynlluniau ariannu brys.

Cafodd y ddwy alwad eu gwrthod gan y Llywodraeth Lafur a’r dirprwy weinidog trafnidiaeth, Lee Waters.

Roedd sylwadau’r llythyr i’w gweld yn cytuno â galwadau Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ar gyfer bysiau yn y tymor hir. Dywedodd y Cynghorwyr Andrew Morgan a Rob Stewart:

“Mae croeso i’r ffaith bod [Cyllid Bysiau] yn cael ei ymestyn, ond mae galwad am ffyrdd i wneud y cyllid yn barhaol fel bod modd gwarchod gwasanaethau. Er nad yw niferoedd y teithwyr wedi adfer ar ôl Covid, ni fyddan nhw byth os bydd gwasanaethau’n dechrau cael eu torri ar draws Cymru. […] “Mae colli gwasanaethau bws o bosib yn ddinistriol i’r grwpiau hyn [pobl hŷn, pobl ifanc, pobl ag anableddau ac aelwydydd incwm isel], gan effeithio ar eu lles drwy gyfyngu mynediad at wasanaethau addysgol, economaidd, iechyd a hamdden ac i gysylltiadau teuluol a chymdeithasol.”

Wrth ymateb i’r llythyr beirniadol, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Llyr Gruffydd AS:

“Mae’n glir bod pryderon difrifol Plaid Cymru am ddyfodol trafnidiaeth ledled Cymru yn cael eu rhannu gan gynghorwyr ym mhob rhan o Gymru. Yn benodol, mae llawer iawn o bryder am ddyfodol gwasanaethau bws a fydd, fel y maent ar hyn o bryd, yn gadael cymunedau wedi’u gwahanu. Dyma pam y cyflwynodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd yr wythnos hon ar ddyfodol y Cynllun Argyfwng Bws. “

“Mae cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru ar fysiau ar fin gadael cymunedau heb opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus. Gallai hyn fod yn drychinebus i lawer – yn enwedig pobl hŷn, grwpiau bregus, cymunedau tlotach, ar rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

“Roedd darllen hefyd yn llythyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at y Prif Weinidog bod materion yn ymwneud ag ymddygiad y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, yn enwedig natur y ddadl a naws y cyfarfodydd, yn peri gofid.

“Wrth wraidd unrhyw gynllun i sicrhau dyfodol gwyrddach i Gymru gyfan rhaid fod yna system drafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi’i gwella ac sydd ar gael yn gyfartal i bawb. Mae rhaid i unrhyw gynllun sy’n ceisio mynd i’r afael â hyn sicrhau ei bod yn mynd â phawb yng Nghymru ar y daith honno.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.