20.4 C
Llanelli
Tuesday, August 25, 2026
Home Newyddion Lle Glanhawr trenau TrC- 80 oed – cyn brysured ac erioed

Glanhawr trenau TrC- 80 oed – cyn brysured ac erioed

0
475
Gwyn4
Gwyn4

MAE’N 8pm ar noson fwyn o wanwyn ac yng ngorsaf reilffordd Caerfyrddin, mae’r tîm glanhau yn paratoi i fynd i’r gwaith.

Yn eu plith, mae William Gwyn Thomas, un o selogion y tîm, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed, carreg filltir sylweddol.

Er ei fod newydd gael ei ben-blwydd yn 80 oed, mae Gwyn, fel y mae’n well ganddo gael ei adnabod, yn dal i weithio mor galed ag erioed.  Gyda brws llawr yn un llaw a mop yn y llaw arall, bydd ef a’r tîm yn glanhau rhwng 18 a 26 o gerbydau a byddant fel pin mewn papur yn barod ar gyfer y bore canlynol.

Gwyn

“Rwyf wrth fy modd yn y swydd hon,” meddai Gwyn, sydd wedi bod yn glanhau trenau yng Nghaerfyrddin ers 25 mlynedd.

“Rwy’n gweithio gyda chriw rhagorol, pob un ohonom yn gwasanaethu ein cwsmeriaid yn y modd gorau posibl.

“Balchder yw popeth ac rydym yn falch iawn o sicrhau bod y trenau fel pin mewn papur ar gyfer y cwsmeriaid fydd yn eu defnyddio drannoeth.”

Ar ôl gweithio fel ffermwr llaeth ger Llambed nes ei fod yn 55 oed, penderfynodd Gwyn newid cyfeiriad.  Ar ddiwedd y 1990au, fe ymunodd â thîm glanhau Caerfyrddin, tîm oedd yn llawer llai bryd hynny.

“Roeddwn mor hapus i gael cynnig y swydd – doeddwn i’n methu credu fy mod wedi bod yn llwyddiannus.  Mae gweithio fel rhan o dîm glanhau Caerfyrddin yn golygu llawer iawn i mi – mae Caerfyrddin yn orsaf arbennig iawn.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl y byddwn yn 80 oed ac yn dal i weithio ond rydw i wrth fy modd a fydda’ i ddim yn rhoi’r gorau iddi nes y bydda i’n barod i wneud hynny, ddim cyn hynny,” ychwanegodd Gwyn sydd â thri o blant – dau ei hun a llysferch, tri o wyrion a phedwar gor-ŵyr.

Mae Gwyn yn credu mai “bwyta’n dda, peidio ag yfed dim byd cryfach na shandi a rhoi’r gorau i ‘smygu” yw’r rheswm am ei hir oes.

Gan weithio rhwng 7:30pm a 2:30am, bydd y tîm yn glanhau pob cerbyd yn drwyadl, gan adael y cabiau, y toiledau, y byrddau a’r lloriau fel pin mewn papur.

Tra mai nos Sadwrn sy’n tueddol i fod y shifft anoddaf, pan fo mynd ati i lanhau’r toiledau’n gallu bod yn eithaf heriol ynghyd â’r sbwriel y mae pobl yn ei adael, dywed Gwyn mai’r unig beth i’w wneud yw bwrw ati a chymryd un dydd ar y tro.

“Mae’n rhwystredig ond does dim pwynt cwyno – dyna naws y swydd ac mae’n rhaid dal ati.  Mae’n rhaid cadw’r cerbydau yn lân ar gyfer ein cwsmeriaid – dyna ein dyletswydd.”

Talodd Wendy Jones, Rheolwr Gweithrediadau Glanhau TrC a James Nicholas, Rheolwr Gorsaf Caerfyrddin deyrnged i Gwyn, gan ei ddisgrifio fel “un o hoelion wyth gorsaf Caerfyrddin”.

“Mae safon y gwaith y mae Gwyn yn ei wneud nos ar ôl nos yn enghraifft wych o rywun sy’n ymfalchïo yn eu gwaith,” dywed y ddau.

“Hoffem ddiolch i Gwyn am bopeth â wna a dymuno penblwydd hapus iawn iddo.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.