12.3 C
Llanelli
Wednesday, September 23, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Ymunwch â Grŵp Rhanddeiliaid Bwrdd Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru

Ymunwch â Grŵp Rhanddeiliaid Bwrdd Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru

0
518
Arms of Carmarthenshire County Council min
Arms of Carmarthenshire County Council min

Ydy iechyd ein hafonydd yn bwysig ichi? A oes gennych ddiddordeb mewn ansawdd dŵr yn y rhanbarth, a ydych yn gyfrifol amdano neu a yw’n effeithio arnoch? Os felly, beth am ymuno â’r Grŵp Rhanddeiliaid Afonydd i helpu i weithio i ddiogelu ac i wella afonydd Cleddau, Teifi a Thywi.

Mae’r Byrddau Rheoli Maetholion yn chwilio am aelodau newydd i sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid i helpu i ddatblygu Cynllun Rheoli Maetholion ar gyfer ardal Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Wrth ddod yn aelod o’r Grŵp Rhanddeiliaid, gallwch:

  • Helpu i adfer ac i ddiogelu iechyd ein hafonydd.
  • Profi syniadau newydd, technoleg, a dysgu am fesurau lliniaru.
  • Cyfarfod â phobl a sefydliadau o’r un meddylfryd sy’n ceisio cyflawni’r un nod cyffredin.

Os oes gennych ddiddordeb, dewch i’r Digwyddiad i Randdeiliaid Afonydd a gynhelir yn Ystafell Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin ddydd Mercher, 31 Mai 2023 rhwng 10am a 4pm.  Darperir cinio ysgafn a lluniaeth.

Mae llygredd ffosfforws yn nalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Cymru yn fater difrifol sydd y tu hwnt i atebion hawdd, ac mae mwy na 60% o’n hafonydd ACA mwyaf gwerthfawr yn methu o ran y targedau ffosffad. Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Gorllewin Cymru, sef Afon Cleddau, Afon Teifi ac Afon Tywi, yn cefnogi rhai mathau o fioamrywiaeth mwyaf gwerthfawr y wlad ac yn ffynonellau pwysig i’w cymunedau o ran iechyd a llesiant.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain Cymru yn yr ymdrech i fynd i’r afael â gormod o faetholion sy’n mynd i’r dyfrffyrdd. Sir Gaerfyrddin oedd y sir gyntaf yng Nghymru i ddylunio Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion ac, ynghyd â Chynghorau Sir Penfro a Cheredigion, mae wedi sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid Afonydd Gorllewin Cymru, sy’n ymestyn ar draws ffiniau’r siroedd ac yn ystyried y tri dalgylch afon.

Nid yw’r mater o ran ffosfforws yn un y gellir ei reoli ar wahân gan fod llwythi gormodol o faetholion yn tarddu o sawl ffynhonnell. I gael ateb mae angen ymwneud â’r holl randdeiliaid sy’n gyfrifol am fewnbynnau o’r fath.

Ynghylch y Bwrdd Rheoli Maetholion

Mae’r Bwrdd Rheoli Maetholion yn gyfrifol am nodi a gweithredu camau sy’n cyrraedd targed cadwraeth afon, a ystyrir yn Ardal Cadwraeth Arbennig, sy’n ffafriol o ran ffosfforws (SAC), yn ogystal â diwallu anghenion economaidd-gymdeithasol ei chymunedau cyfagos. Mae tri Bwrdd Rheoli Maetholion wedi cael eu ffurfio yng ngorllewin Cymru; Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Tywi, Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Cleddau a Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Teifi.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Arweinydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio: “Mae afon Tywi, ynghyd ag afonydd Cleddau a Theifi, yn Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae’n adnodd naturiol gwerthfawr i Sir Gaerfyrddin ac i fioamrywiaeth y sir, ac mae hefyd yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant y cymunedau y mae’n llifo trwyddynt a’r rhai cyfagos.

“Mae angen defnyddio dull amlhaen i fynd i’r afael â llygredd ffosfforws ac felly rwy’n annog pobl o wahanol gefndiroedd, sy’n gofidio’n fawr am iechyd ac ansawdd dŵr ein hafonydd, i gamu ymlaen i chwarae eu rhan wrth ddatblygu Cynllun Rheoli Maetholion.”

Cynhelir y digwyddiad i Randdeiliaid Afonydd yn Ystafell Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin ddydd Mercher, 31 Mai 2023 rhwng 10am a 4pm. 

Mae gwahoddiad agored i bawb, ond i helpu i drefnu’r lluniaeth, gofynnir ichi ymateb eich bod yn bwriadu bod yn bresennol trwy gysylltu â Laurel E Carrington, Swyddog Rheoli Maetholion ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin: lecarrington@sirgar.gov.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.