9.1 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Deintyddfa Llandeilo Road yn dychwelyd ei Chontract Deintyddol GIG

Deintyddfa Llandeilo Road yn dychwelyd ei Chontract Deintyddol GIG

0
372
download 1 1
download 1 1

Mae Deintyddfa Llandeilo Road yn Cross Hands wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddychwelyd ei Chontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GIG) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 31 Awst 2023.

Bydd hyn yn golygu na fydd y ddeintyddfa yn darparu gofal deintyddol GIG o 1 Awst 2023 ymlaen.

Bydd y ddeintyddfa yn darparu unrhyw ofal brys sydd ei angen ar gleifion hyd at ac yn cynnwys 31 Awst 2023 a bydd yn sicrhau bod unrhyw driniaeth yn cael ei chwblhau.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r Bwrdd Iechyd ddiolch i’r cleifion am y cymorth y maent wedi’i roi i’r ddeintyddfa dros y blynyddoedd ac rydym yn gwerthfawrogi’r effaith y bydd y newid hwn yn ei gael. gael ar y boblogaeth leol.

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio i ddod o hyd i ateb hirdymor sy’n sicrhau’r gwasanaeth pwysig hwn i’r ardal.”

Ar ôl i’r ddeintyddfa gau, dylai cleifion sy’n dioddef poen deintyddol gysylltu â 111 i gael apwyntiad mynediad deintyddol brys sydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

Mae’r bwrdd iechyd am sicrhau ateb cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau deintyddol y GIG yn yr ardal ac mae wedi ymrwymo i gael gwasanaeth newydd yn ei le cyn gynted â phosib.

Gall y cleifion GIG hynny sy’n gysylltiedig â Deintyddfa Llandeilo Road gysylltu â’r bwrdd iechyd drwy anfon e-bost at HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 0300 303 8322 estyniad 4 i gael eu rhoi ar restr gadw ar gyfer y ddeintyddfa newydd unwaith y bydd y gwasanaeth yn ei le.

I gael gwybodaeth am sut y gallwch gael mynediad at ofal deintyddol y GIG mewn deintyddfa arall, ewch i biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/deintyddol neu cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Deintyddol yn HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.