5 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home hywel dda health board Ymwelwch â stondin BIP Hywel Dda ar faes Eisteddfod yr Urdd

Ymwelwch â stondin BIP Hywel Dda ar faes Eisteddfod yr Urdd

0
337
Mr Urdd min
Mr Urdd min

P’un a ydych yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri i wylio’ch plentyn neu ffrind yn cystadlu ar y llwyfan, cwrdd â ffrindiau neu i fwynhau a dathlu diwylliant Cymru, bydd croeso cynnes i chi yn y Stondin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Gallwch ddod o hyd i ni ar stondin rhif 101-104.

Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop ac mae gan ein stondin ddigonedd i’w gynnig i aelodau o’n cymunedau lleol ac ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin. Bydd gwesteion arbennig yn ymuno â’n tîm Hywel Dda i gynnal amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles drwy gydol yr wythnos i bobl o bob oed.

Edrychwn ymlaen at ein hymddangosiadau arbennig gan y diddanwyr Tudur Phillips (dydd Llun a dydd Iau) a Siani Sionc (Dydd Mawrth) a fydd yno i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymarfer corff a chadw’n heini ac iach wrth berfformio a dawnsio.

Bydd cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac i gwrdd â gwahanol dimau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys:

Drwy gydol yr wythnos

  • Bydd y Tîm Imiwneiddio a Brechlynnau yn gallu ateb unrhyw gwestiynau am imiwneiddiadau a brechiadau.
  • Bydd y Tîm Recriwtio yn rhannu manylion am sut y gallwch ddatblygu eich gyrfa ym maes iechyd a’r ystod eang o gyfleoedd gwaith sydd ar gael yn y bwrdd iechyd.
  • Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu gael profiad gwaith o fewn y bwrdd iechyd, bydd Tîm Gweithlu’r Dyfodol ar gael i ateb unrhyw gwestiynau drwy gydol yr wythnos.
  • Os ydych yn ymweld â’r stondin ni fyddwch am golli ein Tîm Cynhwysiant Digidol, a fydd yno drwy’r wythnos. Cymerwch sbin ar y Beic Rhithwir Google, neu rhowch gynnig ar yr apiau iechyd ar un o’n iPads – mae’r tîm yn hapus i’ch helpu i ddysgu sut i ddatblygu eich sgiliau digidol, hyder, a sut i gael mynediad at dechnoleg i hybu eich iechyd.
  • Bydd Tîm Therapïau Plant ar y stondin i gynnig amrywiaeth o weithgareddau i blant o wahanol oedrannau, gan ganolbwyntio ar ddatblygu iaith, geirfa, sgiliau gwrando a symud.

Dydd Llun

  • Galwch draw ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Iau i weld ein diddanwyr plant gwadd, Tudur Phillips a Siani Sionc.

Dydd Mawrth

  • Bydd y Tîm Nyrsio Cymunedol Plant, Tîm Iechyd Anabledd Plant, Tîm Gwasanaethau Therapi Chwarae yn cynnig rhai offer hybu iechyd gan gynnwys set o ddannedd mawr ‘drwg’, gweithgareddau i hybu bwyta’n iach ac ymarfer corff byddant hefyd yn gofyn i blant gymryd rhan mewn paentio gyda chwistrellau ac arddangos dyfeisiau pwysedd gwaed.
  • Bydd Tîm Methiant y Galon yno i drafod iechyd y galon a beth i’w wneud i gadw’r galon yn iach.
  • Bydd ein Tîm Patholeg ar y stondin ddydd Mawrth gydag amrywiaeth o weithgareddau addas i blant ar gael.

Dydd Mercher

  • Bydd Nyrsys Ysgol Sir Gaerfyrddin yno i siarad a dangos i blant ysgol gynradd pwysigrwydd bwyta’n iach, golchi’ch dwylo a chysgu a byddant wrth law i siarad am bwysigrwydd iechyd meddwl ac emosiynau gyda disgyblion ysgol uwchradd (Dydd Mercher & Gwener).
  • Bydd Tîm Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau wrth law i wirio eich pwysedd gwaed a rhoi cyngor (dydd Mercher i ddydd Sadwrn)
  • Bydd Tîm Cynllun Gwên wrth law i roi cyngor ar iechyd y geg – yn enwedig i blant ifanc a’u rhieni, gan gynnwys arddangosiad ar y ffordd orau o gadw dannedd yn lân ac yn iach.

Dydd Iau

  • Ddydd Iau bydd ein Tîm Lles Dementia ynghyd â Thîm Nyrsys Admiral yn bresennol i gynyddu ymwybyddiaeth plant a lleihau stigma ynghylch dementia ac i ddarparu persbectif mwy cadarnhaol o bobl sy’n byw gyda dementia.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac arweinydd y Gymraeg, Alwena Hughes Moakes: “Cawsom amser gwych yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron y llynedd ac rydym wrth ein bodd bod Eisteddfod yr Urdd yn ein hardal ni eleni. Mae ein timau’n edrych ymlaen at gyfarfod a siarad â phobl leol o Sir Gaerfyrddin, ac ymwelwyr â Llanymddyfri, i drafod popeth sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant yn ogystal ag arddangos rhywfaint o’r gwaith rydym yn ei wneud fel bwrdd iechyd i gefnogi ein cymunedau lleol. Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein stondin – o gymryd tro cyflym ar ein Beic Google i awgrymiadau da ar ddatblygu gyrfa werth chweil o fewn y GIG. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn sy’n argoeli i fod yn ddathliad gwych o ieuenctid, iaith, a diwylliant yn ein hardal leol.”

I gael y diweddaraf o stondin y bwrdd iechyd a Maes yr Eisteddfod, gallwch ddilyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar Twitter @BIHywelDda, Facebook – Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac Instagram @hywelddauhb neu ddilyn y sgwrs yn #HywelArYMaes #HywelOnTheMaes a #IechydDaHywelDda 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.