9.4 C
Llanelli
Thursday, March 5, 2026
Home hywel dda health board Hywel Dda yn diolch i wirfoddolwyr ar Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr 

Hywel Dda yn diolch i wirfoddolwyr ar Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr 

0
448
9077824394faa736 org
9077824394faa736 org

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddiolch o galon i’w wirfoddolwyr anhygoel ar Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr 2023.

Cynhelir Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn ac mae’n gyfle i gydnabod y cyfraniad gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i’n cymunedau ac i ddweud diolch.

Ar draws y bwrdd iechyd, mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gefnogi cleifion, gwasanaethau ac adrannau ac i wella profiad cleifion yn yr ysbyty. 

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Wrth i ni nodi Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr, ar ran y bwrdd iechyd hoffwn fynegi ein gwerthfawrogiad diffuant i’n holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser eu sgiliau, a’u tosturi at eu Gwasanaeth Iechyd yn lleol.

“Mae eich cefnogaeth i gleifion a staff yn gwneud gwahaniaeth bob dydd, diolch o galon.”

Os oes gennych ddiddordeb, mae amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol ar gael yn y bwrdd iechyd. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddod i wybod am y gwaith sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ac mae’n darparu profiad bywyd go iawn o ryngweithio â chleifion ac ymwelwyr. 

Gall cymorth gwirfoddol fod yn rhywbeth mor syml â sgwrsio â chlaf neu helpu ymwelwyr i ddod o hyd i’r ward iawn ar adegau ymweld. 

Gallech fod yn wirfoddolwr fferyllfa, yn gyfaill, yn gweithio gyda’n trolïau siop neu lyfrgell – neu mewn lleoliad clinigol fel ward plant neu adran damweiniau ac achosion brys.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i hyb gwirfoddoli a phrofiad gwaith y bwrdd iechyd biphdd.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwirfoddolwyr-a-phrofiad-gwaith ffoniwch 07790 978576 neu ebostiwch HDD.FutureWorkforceTeam@wales.nhs.uk

Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at ansawdd y gofal y mae cleifion yn ei brofi. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser, eu sgiliau a’u hegni i gefnogi ein cymunedau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.