22.7 C
Llanelli
Saturday, August 15, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Croesawu ceisiadau am gyllid i ailagor eiddo masnachol yng nghanol trefi Rhydaman,...

Croesawu ceisiadau am gyllid i ailagor eiddo masnachol yng nghanol trefi Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin 

0
515
Rhydaman Ammanford scaled
Rhydaman Ammanford scaled

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o gyhoeddi bod cyllid bellach ar gael i ddechrau ailddefnyddio adeiladau gwag yng nghanol tair prif dref y sir at ddiben masnachol.

Nod y cyllid drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yw datblygu adeiladau gwag ac adfeiliedig yng nghanol trefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli at ddiben masnachol trwy eu hadnewyddu a chreu pwrpas arall iddynt.

Bydd y cyllid hefyd yn ategu seilwaith gwyrdd i wella bioamrywiaeth a gwella mannau cyhoeddus. Bwriad y rhaglen Trawsnewid Trefi yw creu canol trefi bywiog, gyda mannau gwaith hyblyg a mwy o fynediad at wasanaethau i drigolion ac i bobl sy’n ymweld â chanol ein prif drefi.

Bydd y grant yn agor i geisiadau rhwng 7 Mehefin a 30 Awst 2023. Rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Ionawr, 2025.

Caiff y ceisiadau eu hystyried fesul achos.

Mewn amgylchiadau lle mae cost y prosiect yn llai na £250,000, efallai fydd cyfradd ymyrraeth o hyd at 70% yn erbyn cyfanswm costau’r prosiect ar gael. Rhaid i geisiadau dros £250,000 fod o natur strategol a byddant yn cael eu hystyried drwy banel cyfalaf Llywodraeth Cymru a gallai cyfradd ymyrraeth grant o hyd at 45% fod ar gael.

Bydd swm y cyllid yn cael ei bennu ar y lefel isaf sydd ei hangen er mwyn i’r prosiect fynd rhagddo.

Swm cyfyngedig o arian sydd ar gael, a’r cyntaf i’r felin fydd hi. Dim ond yn y tair prif dref fydd cyllid ar gael; Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae canol ein trefi yn chwarae rhan annatod o fewn economi Sir Gaerfyrddin ac mae’n bwysig iawn ein bod ni, fel y Cyngor Sir, yn parhau i gefnogi busnesau sy’n masnachu yno.

“Felly rwy’n croesawu cyllid Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru ac yn annog perchnogion a lesddeiliaid adeiladau gwag ac adfeiliedig yng nghanol trefi Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin i gysylltu â’r Cyngor, cyn gynted â phosib, er mwyn trafod cyfleoedd posib i gael yr adeiladau hyn yn masnachu eto ar y stryd fawr.”

I gael rhagor o fanylion, neu os hoffech drafod unrhyw brosiectau posibl, e-bostiwch transformingtowns@sirgar.gov.uk

Cliciwch yma i fynd i’r dudalen Trawsnewid Trefi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.