9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Dwr Cymru Dŵr Cymru’n creu cartrefi pel tennis i llygod medi yng Llyn ...

Dŵr Cymru’n creu cartrefi pel tennis i llygod medi yng Llyn Llandegfedd

0
406
mouse 1 min
mouse 1 min

Dwr Cymru Welsh Water News

  • Dŵr Cymru’n defnyddio hen beli tennis i greu tai ar gyfer llygod medi yng Llyn Llandegfedd.
  • Bydd y peli’n amddiffyn y llygod rhag tywydd gwael ac ysglyfaethwyr.
  • Gall clybiau chwaraeon rannu eu hen beli tennis â Dŵr Cymru er mwyn eu hailddefnyddio.

Mae Dŵr Cymru wedi datgelu prosiect arloesol gadwraeth bywyd gwyllt sy’n creu cartrefi i llygod medi allan o hen beli tenis yng Nghronfa Ddŵr Llandegfedd.

Mae’r prosiect â’r nod o amddiffyn bywyd gwyllt a chyfoethogi bioamrywiaeth yng Nghronfa Ddŵr Llandegfedd.

Wedi ei ysbrydoli gan lwyddiant ar safle Aber Afon Dyfrdwy yn 2015, mae tîm gofalwyr y cwmni wedi defnyddio dull arloesol o gynorthwyo’r boblogaeth leol o lygod medi gan ailddefnyddio hen beli tennis.

Dydy peli tennis ddim wedi bod yn achos dathlu’n draddodiadol, ond gwelodd y tîm fod yna botensial ar gyfer effaith amgylcheddol. Trwy greu “tai llygod medi” o’r peli tenis, mae’r tîm o ofalwyr yng Nghronfa Ddŵr Llandegfedd wedi cymryd cam pwysig tuag at ddiogelu’r mamaliaid bychain bach yma.

Dywedodd rheolwr yr atyniad ymwelwyr at Llyn Llandegfedd, Jonathan Davies: “Mae’r peli tennis yn cyflawni sawl pwrpas yn yr ymdrech gadwraeth yma. Maen nhw’n amddiffyn y llygod rhag ysglyfaethwyr a thywydd gwael. Ac maen nhw’n cynnig cyfle i’r llygod nythu mewn ardaloedd lle mae llawer o fwyd, ond prinder ardaloedd addas i nythu ynddynt hefyd”.

Mae’r dull arloesol yma o edrych ar gadwraeth bywyd gwyllt yn gyson ag ymroddiad Dŵr Cymru i wella bioamrywiaeth ar draws ei safleoedd.

Nawr, mae’r cwmni dŵr nid-er-elw yn gofyn clybiau chwaraeon trwy Cymru a Henffordd i roi bywyd newydd i’r hen beli tenis gan anfon y peli i’r prosiect

Dywedodd Jonathan: “Byddem yn gofyn i unrhyw glybiau chwaraeon neu dennis sydd â hen beli tenis i gysylltu â ni, fel y gallwn ailgylchu’r peli a rhoi cartref newydd, diogel i’r llygod hyn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.