3.4 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Environmental News Cyllid a chefnogaeth ar gael i dirfeddianwyr sy’n rhoi hwb i fioamrywiaeth...

Cyllid a chefnogaeth ar gael i dirfeddianwyr sy’n rhoi hwb i fioamrywiaeth ar Arfordir Penfro

0
372
FieldMargin min scaled
FieldMargin min scaled

Mae perchnogion tir o fewn hanner milltir i Arfordir Penfro, fel ffermwyr, tyddynwyr a darparwyr twristiaeth, yn cael eu hannog i ddysgu mwy am gynllun newydd sy’n ceisio cysylltu cynefinoedd a gwella bioamrywiaeth.

Fel rhan o’r cynllun Cysylltu’r Arfordir, sy’n cael ei ariannu gan gronfa Tirweddau Cynaliadwy Mannau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, bydd tirfeddianwyr yn cael cyngor, cymorth a chyllid i dalu am gostau cyfalaf, yn ogystal â thaliadau rheoli blynyddol sy’n para rhwng pump a deng mlynedd.

Capsiwn: Bydd y cynllun Cysylltu’r Arfordir yn gweithio gyda thirfeddianwyr i gysylltu cynefinoedd a gwella bioamrywiaeth ar hyd Arfordir Penfro.

Dywedodd Clare Flynn, Swyddog Cadwraeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Dim ond un o’r ffyrdd rydyn ni’n cefnogi ffermwyr a thirfeddianwyr lleol i ddarparu ar gyfer bywyd gwyllt a hyrwyddo adferiad natur yw’r cynllun hwn.

“Bydd yn cynnig cyngor a chymorth ariannol ar gyfer amrywiaeth o wahanol opsiynau, o greu a rheoli glaswelltiroedd sydd llawn rhywogaethau amrywiol i hadu gwyndwn llysieuol a darparu ar gyfer adar tir fferm.

“Mae’r cynllun yn hyblyg a gellir ei deilwra i ddiwallu anghenion y tir a’r tirfeddiannwr, ond mae’n bwysig bod pobl yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl i gofrestru eu diddordeb erbyn 31 Gorffennaf 2023 er mwyn i ni gael sgwrs anffurfiol a thrafod sut gallai’r cynllun weithio iddyn nhw.”

Capsiwn: Bydd y cynllun Cysylltu’r Arfordir yn gweithio gyda thirfeddianwyr i gysylltu cynefinoedd a gwella bioamrywiaeth ar hyd Arfordir Penfro.

Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Mannau Cynaliadwy yn rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf ar draws wyth o Dirweddau Dynodedig Cymru, sy’n eu galluogi i gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer natur, sbarduno datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd a darparu twristiaeth gynaliadwy.

I gofrestru eich diddordeb yn y cynllun Cysylltu’r Arfordir, anfonwch e-bost at claref@pembrokeshirecoast.org.uk, ffonio 01646 624800, neu ewch i www.arfordirpenfro.cymru/cysylltur-arfordir.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.