7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Elusen GIG yn ariannu Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar gyfer cleifion sy’n cael...

Elusen GIG yn ariannu Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar gyfer cleifion sy’n cael triniaeth gwrth-ganser sydd â symptomau menopos

0
331
Linsey and Sally min scaled
Linsey and Sally min scaled

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu therapi gwybyddol ymddygiadol ar gyfer y rhai sy’n profi symptomau menopos wrth gael triniaeth gwrth-ganser ar gyfer canser y fron.

Therapi siarad yw therapi gwybyddol ymddygiadol a all helpu pobl i reoli eu symptomau trwy newid y ffordd y maent yn meddwl ac yn ymddwyn.

Gall symptomau menopos gynnwys gorbryder ac iselder, yn ogystal â symptomau seicolegol a ffisiolegol eraill fel pyliau o wres a chwysu yn y nos, problemau cysgu a blinder. Yn ystod y therapi, gall pobl ddysgu technegau gwahanol i’w helpu i reoli ac ymdopi â’r symptomau hyn.

Dywedodd Linsey Jones, Cydlynydd Oncoleg Acíwt Macmillan: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni gymryd rhan yn yr ymyriad therapi gwybyddol ymddygiadol.

 “Bydd yr ymyriad o fudd i gleifion sy’n profi sgil-effeithiau annymunol o ganlyniad i’w triniaeth canser a hynny trwy eu cyflwyno i strategaethau hunanreoli, yn seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael â symptomau menopos.”

 Dywedodd Sally-Ann Rolls, Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg, Arweinydd Cwrs: “Mae’r cwrs hwn wedi newid bywydau rhai o’n cleifion yn llythrennol. Ni allem ddarparu’r lefel hon o gyfoethogiad heb y cronfeydd elusennol hael iawn a ddarparwyd.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff y GIG yn lleol, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.