7.8 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Animals Cael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw’n Ddiogel yn ystod wythnos Sioe Frenhinol...

Cael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw’n Ddiogel yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru

0
419
9f4283ec c883 e3a0 758f 7984d2d11b0a min
9f4283ec c883 e3a0 758f 7984d2d11b0a min

Bydd cyfres o fesurau diogelwch, sy’n cynnwys ymgyrch i annog ieuenctid i Gael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw’n Ddiogel, yn dychwelyd cyn Sioe Frenhinol Cymru y mis hwn.

Bydd yr ymgyrch greadigol a hwyliog sy’n cynnwys arddangos cyfres o bosteri, baneri a chyfryngau eraill mewn lleoliadau trwyddedig ledled Llanfair-ym-Muallt yn ystod wythnos y sioe yn annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol. Caiff yr ymgyrch ei gweithredu gan Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt.

Nod y mesurau a gyflwynwyd gan y grŵp diogelu, a ffurfiwyd yn 2017 gan Gyngor Sir Powys, yw lleihau risg cyhoeddus a gwella diogelwch y sawl a fydd yn Llanfair-ym-Muallt a’r cylch tra bo Sioe Frenhinol Cymru yn mynd rhagddi.

Ymhlith y mesurau diogelu eraill a fydd hefyd mewn lle mae’r canlynol:

  • Llwybr cerdded diogel o’r enw y Llwybr Gwyrdd
  • Canolfan feddygol a llesiant sef y Pwynt Cymorth sy’n cael ei weithredu gan Sant Ioan Cymru o Neuadd y Strand
  • Pwynt Cymorth ‘Pop up’ i ddarparu cyfarwyddyd a chymorth lles dan weithrediad Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Powys o’r Groe
  • Bydd cymorth lles yn cael ei ddarparu gan Fugeiliaid Stryd a Gweithwyr Ieuenctid gyda’r nos
  • Dŵr am ddim sy’n rhodd garedig oddi wrth Radnor Hills
  • Bydd blychau amnest cyffuriau yn cael eu lleoli ar lwybrau mynediad i leoliadau digwyddiadau yn Llanfair-ym-Muallt a’r cylch.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: “Mae Sioe Frenhinol Cymru’n uchafbwynt yng nghalendr llawer o bobl ac mae’n denu degau o filoedd o ymwelwyr i Lanfair-ym-Muallt a’r cylch amgylchynol bob blwyddyn.

“Yn dilyn lansio ymgyrch Cael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw’n Ddiogel y llynedd, mae’n grêt gweld yr ymgyrch yn dychwelyd ar gyfer Sioe eleni fel modd hwyliog o gyfathrebu neges bwysig i’r rheini yn Llanfair-ym-Muallt a’r cylch yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru.

“Wrth gwrs, rydym am i’n hymwelwyr gael amser grêt. Mae’n achlysur cymdeithasol ac yn gyfle perffaith i ail-gwrdd â hen ffrindiau na weloch ers tro efallai, ond cofiwch yfed ac ymddwyn yn gyfrifol a gofalu ar ôl eich hun a’ch ffrindiau. Gyhyd ag y bo pobl yn Cael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw’n Ddiogel byddan nhw’n cael amser cofiadwy yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru.

“Rydym ni’n deall y bydd rhai o’r mesurau a fydd mewn grym yn peri peth aflonyddwch i breswylwyr sy’n byw yn Llanfair-ym-Muallt. Fodd bynnag, maen nhw’n angenrheidiol i sicrhau ein bod ni’n cadw ymwelwyr a phreswylwyr yn ddiogel drwy gydol wythnos Sioe Frenhinol Cymru.”

Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, “Rydym am i bob ymwelydd gael amser diogel a mwynhau ymweld â Sioe Frenhinol Cymru a’r ardaloedd amgylchynol. Fel trefnyddion y digwyddiad, ein blaenoriaeth yw creu amgylchedd diogel a chroesawgar ac rydym ni’n falch o weithio’n agos at Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt i sicrhau bod y mesurau a fydd mewn grym yn darparu diogelwch a thawelwch meddwl i bawb. Diolchwn i’r grŵp am eu holl waith wrth i ni edrych ymlaen at sioe gofiadwy arall. Cofiwch Gael hwyl, Cymryd Gofal a Chadw’n Ddiogel.”

Dywedodd William Watkins, Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills, prif gynhyrchydd diodydd ysgafn Cymru: “Rydym ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda Sioe Frenhinol Cymru eto a darparu’n poteli dŵr i’r sioe amaethyddol hanesyddol hon.

“Mae’r grŵp diogelwch digwyddiadau yn gwneud gwaith gwych bob blwyddyn wrth gadw pawb yn ddiogel yn y sioe ac rydym ni’n falch y bydd ein dŵr ffynnon eithriadol o bur, sy’n tarddu ac yn cael ei botelu ychydig filltiroedd o’r sioe, yn torri syched pawb.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.