15.9 C
Llanelli
Wednesday, March 18, 2026
Home Newyddion Lle Cloddio’n ddwfn i orffennol cuddiedig Sir Benfro mewn digwyddiad archeoleg yng Nghastell...

Cloddio’n ddwfn i orffennol cuddiedig Sir Benfro mewn digwyddiad archeoleg yng Nghastell Caeriw

0
433
SMALLCarew Castle 1 Eastwood Photography min
SMALLCarew Castle 1 Eastwood Photography min

Bydd Castell Caeriw yn cynnal digwyddiad newydd cyffrous yn nes ymlaen y mis yma. Bydd yn cynnwys diwrnod llawn o weithgareddau addysgiadol a difyr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes ac archeoleg.

Mae Darganfod Hanes: Sir Benfro’r Gorffennol wedi cael ei drefnu ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, a hefyd bydd nifer o amgueddfeydd lleol eraill a grwpiau hanes yn ymuno i ddarparu amrywiaeth eang o sgyrsiau, arddangosfeydd o arteffactau, casgliadau amgueddfeydd, a gweithgareddau archaeoleg ymarferol ar gyfer ymwelwyr o bob oed.

Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle unigryw i archwilio hanes cyfoethog Sir Benfro a dysgu am y darganfyddiadau archeolegol sydd wedi siapio’r rhanbarth dros amser. Yn ystod y digwyddiad, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i sgwrsio ag arbenigwyr ac amaturiaid o wahanol feysydd, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau, sgyrsiau a thaith dywys o amgylch tir y Castell.

Dyma rai uchafbwyntiau:

  • Gweithgareddau ymarferol i blant a theuluoedd, gan gynnwys pwll cloddio ffug ar gyfer egin-archeolegwyr ifanc
  • Sgwrs ryngweithiol ar Hanesion Atgas, Ysgol Marchogion a Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth
  • Arddangosfeydd arteffactau gan grwpiau hanes lleol ac amgueddfeydd
  • Taith dywys o amgylch y Castell, dan arweiniad tywysydd arbenigol a fydd yn rhannu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o hanes ac arwyddocâd y Castell.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Rydyn ni’n falch iawn o gynnal Darganfod Hanes: Sir Benfro’r Gorffennol yng Nghastell Caeriw, ac o weithio gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a grwpiau lleol eraill i ddod â’r digwyddiad hwn yn fyw.

“Credwn y bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ymwelwyr ymgysylltu â hanes a threftadaeth gyfoethog Sir Benfro, ac i ddysgu mwy am y darganfyddiadau archeolegol diddorol sydd wedi dylanwadu ar ein dealltwriaeth o’r gorffennol.”

Ymysg y sefydliadau yno bydd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro, Amgueddfa Dinbych-y-pysgod, Ymddiriedolaeth Muriau Tref Penfro, Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Ymddiriedolaeth Hanes Sir Benfro, Cymdeithas Hanes Cilgeti/Begeli, Mwynchwilwyr Sir Benfro a’r Swyddog Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, ynghyd â Tomos Ll. Jones, Archaeolegydd Cymunedol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Cynhelir Darganfod Hanes: Sir Benfro’r Gorffennol yn cael ei gynnal ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023 rhwng 10am a 4pm yng Nghastell Caeriw. Mae’r digwyddiad yn agored i bobl o bob oed ac mae’n rhad ac am ddim gyda’r pris mynediad arferol i’r Castell.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.castellcaeriw.com neu cysylltwch â’r Castell yn uniongyrchol drwy anfon e-bost at enquiries@carewcastle.com.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.