9.6 C
Llanelli
Friday, February 27, 2026
Home Dwr Cymru Anturiaethau gyda Bwystfilod Bychan: Dŵr Cymru a Chadwch Gymru’n Daclus yn cydweithio...

Anturiaethau gyda Bwystfilod Bychan: Dŵr Cymru a Chadwch Gymru’n Daclus yn cydweithio i gynnal sesiwn addysg, ar-lein, gyda gwahaniaeth.

0
417
20230425 115006101 iOS scaled
20230425 115006101 iOS scaled

Mae Dŵr Cymru a thîm Eco-Sgolion Cymru o Cadwch Gymru’n Daclus wedi dod â rhyfeddodau’r awyr agored i fewn i’r ystafell ddosbarth gyda sesiwn addysg rhyngweithiol, ar-lein.

Cymru o Cadwch Gymru’n Daclus wedi dod â rhyfeddodau’r awyr agored i fewn i’r ystafell ddosbarth gyda sesiwn addysg rhyngweithiol, ar-lein yn canolbwyntio ar ficroanifeiliaid, eu nodweddion a’u cynefinoedd. Cynhaliwyd y sesiwn yng Nghanolfan Addysg Amgylcheddol Cilfynydd, gyda disgyblion ysgol gynradd Cyfnod Allweddol 2 yn cymryd rhan yn y profiad dysgu unigryw.

Mae’r fenter yn rhan o strategaeth addysg arloesol Dŵr Cymru, sydd wedi cyrraedd dros 600,000 o ddisgyblion hyd yma. Mae’r cwmni nid-er-elw wedi ymrwymo i ysbrydoli’r genhedlaethau’r dyfodol am ddŵr, gan ddefnyddio dull unigryw o secondio athrawon yn flynyddol i gyflwyno ei rhaglen addysg.

Tynnodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu â’r Gymuned yn Dŵr Cymru, sylw at bwysigrwydd y cydweithrediad: “Rydym yn aml yn cydweithio i ddarparu sesiynau addysg cydweithredol, ac yn edrych i feithrin manteision cymdeithasol ehangach. Rydym yn falch iawn o weithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus ar y sesiwn cyffrous hwn. Mae gweld y plant yn ymgysylltu ac yn ymroi’n frwdfrydig yn ystod y sesiynau hyn yn dod â llawer o lawenydd. Mae hefyd yn helpu cwsmeriaid y dyfodol i ddeall ein gwaith i gynnal ein gwasanaethau hanfodol ac amddiffyn yr amgylchedd.” 

Cynhwysodd y sesiwn 40-munud gwîs, ymchwiliad meicrosgop, gwybodaeth ar amrywiaeth o rywiogaethau – o Berdys y Nant i Nymffau Mursennod, gwaith cartref, a thrafodaethau. Yn unol a holl ddarpariaeth Dŵr Cymru a Chadw Cymru’n Daclus, mae’r cynnwys yn cael ei arwain gan y Cwricwlwm Cenedlaethol i Gymru, ac yn cysylltu’n gryf gyda’r pedwar pwrpas craidd – dysgwyr galluog, cyfranwyr menturus, dinasyddion gwybodus, ac unigolion hyderus.

Online Session

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.