8.9 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Ysgol Gynradd Felinfach yn codi dros £700 ar gyfer Uned cemo Bronglais

Ysgol Gynradd Felinfach yn codi dros £700 ar gyfer Uned cemo Bronglais

0
422
Felinfach cheque presentation min e1690718478164
Felinfach cheque presentation min e1690718478164

Mae Ysgol Gynradd Felinfach wedi codi dros £700 ar gyfer yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais drwy gynnal prynhawn coffi.

 Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd ar 14eg Mehefin ar fuarth yr ysgol, bu rhieni a chefnogwyr yn mwynhau coffi, te a chacen a phrynu nwyddau gan y disgyblion oedd ag amrywiaeth o stondinau. Cawsant gyfle hefyd i gymryd rhan mewn raffl.

Dywedodd yr athrawes Rhian England: “Roedd yn ddiwrnod hyfryd a chafwyd cefnogaeth wych gan rieni a chymuned yr ysgol.

“Fe wnaethon ni godi cyfanswm o £724. Pan fyddwch chi’n meddwl bod y prynhawn coffi wedi para tua dwy awr yn unig, mae hynny’n swm anhygoel!

“Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i gefnogi’r ysgol. Braf oedd gweld cymaint o rieni a chefnogwyr o’r gymuned yn mwynhau paned a sgwrs.”

I gael rhagor o fanylion am Elusennau Iechyd Hywel Dda a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion GIG lleol, defnyddwyr gwasanaeth a staff yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.