18.2 C
Llanelli
Thursday, September 3, 2026
Home Events Teithiwch yn ôl mewn amser ar gyfer Penwythnos o Arfau a Rhyfela...

Teithiwch yn ôl mewn amser ar gyfer Penwythnos o Arfau a Rhyfela Caeriw

0
404
Image 1 min
Image 1 min

Bydd ymwelwyr â Chastell Caeriw yn cael gwledd dros yr Ŵyl Banc wrth i’r cadarnle eiconig gael ei gludo’n ôl i’r Oesoedd Canol ar gyfer Penwythnos o Arfau a Rhyfela.

Mae’r digwyddiad tridiau o hyd am ddim gyda ffi mynediad arferol y Castell. Mae’r atyniad yn cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a bydd y digwyddiad ei hun yn cael ei gynnal gan Historia Normannis – grŵp hanes byw o’r 12fed ganrif sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ddod yn agos at fywydau ein cyndeidiau o’r Oesoedd Canol, o farchogion, dinasyddion a chrefftwyr i ferched y llys a barwniaid.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Historia Normannis i Gaeriw dros Wyliau’r Banc. Bydd y Penwythnos o Arfau a Rhyfela yn wers hanes fythgofiadwy ac yn gyfle i ymwelwyr gael profiad o amodau byw byddin o’r 12fed ganrif.

Cynhelir Penwythnos o Arfau a Rhyfela yng Nghastell Caeriw rhwng dydd Sadwrn 26 Awst a dydd Llun 28 Awst.

“Bydd y penwythnos llawn cyffro hwn yn cynnwys gwersyll Canoloesol sy’n arddangos sgiliau traddodiadol, yn ogystal ag arddangosfeydd ymladd ac arfau anhygoel, y cyfle i drin arteffactau replica a rhoi cynnig ar eich sgiliau rhyfela eich hun drwy roi cynnig ar Saethyddiaeth. Sylwer y codir tâl bach am rai o’r gweithgareddau.”

Bydd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Sioe Ffasiwn Ganoloesol am 11am bob dydd, ynghyd â sesiwn Llys y Sir am 1.30pm, a fydd yn tynnu sylw at orfodi cyfreithiau Canoloesol caled a llym.

Bydd Penwythnos o Arfau a Rhyfela Caeriw yn cael ei gynnal rhwng dydd Sadwrn 26 Awst a dydd Llun 28 Awst rhwng 10am a 4pm bob dydd.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw

Mae rhestr lawn o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yma https://www.arfordirpenfro.cymru/events-old/list/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.