7.1 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Fitness Mae Coleg Cambria yn uno cymunedau trwy chwaraeon ac ymarfer corff.

Mae Coleg Cambria yn uno cymunedau trwy chwaraeon ac ymarfer corff.

0
537
FamilyFitness2
FamilyFitness2

Gan ganolbwyntio ar iechyd a llesiant, mae’r coleg sydd wedi’i leoli yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgain – wedi cynnal digwyddiadau i deuluoedd, myfyrwyr a staff yn ystod y flwyddyn academaidd.

Wedi’u trefnu trwy raglen boblogaidd Cambria Heini, cyflwynodd yr hyfforddwr aml-chwaraeon Christina Lace a’i chyd-weithwyr sesiynau Ffitrwydd i’r Teulu, gweithgareddau i’r Meddwl, y Corff a’r Enaid, a rhagor.

Dywedodd: “Fe wnaethon ni ddod â theuluoedd ynghyd ar gyfer tair sesiwn ffitrwydd anhygoel a oedd yn gadael pawb yn teimlo’n llawn egni ac yn unedig.

FamilyFitness

Roedd y digwyddiadau’n llawn chwerthin, chwys a hwyl diddiwedd! Gwnaeth y rhieni a’r plant gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, o ioga i rasys cyfnewid i focsio, gan ddangos eu gwaith tîm anhygoel a’u hagwedd benderfynol.

Roedd yr amgylchedd yn llawn llawenydd, wrth i’r teuluoedd annog ei gilydd yn eu blaenau a dathlu eu cyflawniadau.

“Roedd y cyfan yn hyrwyddo ffordd iach o fyw, ond hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd.

FamilyFitness

Roedd yn galonogol gweld bondiau’n cryfhau a gwên ar wynebau pawb, ac yna pryd blasus am ddim a chyfle i eistedd gyda’r hyfforddwyr a sgwrsio am yr hwyl roedden nhw wedi ei gael.”

Gwnaeth Cambria Heini arwain sesiynau i’r Meddwl, y Corff a’r Enaid i dros 2,300 o ddysgwyr hefyd – dwbl y flwyddyn flaenorol i gefnogi eu llesiant a’u hiechyd meddwl a chorfforol, lleihau straen a chreu meddylfryd cadarnhaol.

“Roedd y canlyniadau yn neilltuol, gyda myfyrwyr yn dweud bod eu lefelau egni, eu gallu i ganolbwyntio, a theimlad o lesiant cyffredinol i gyd yn well,” dywedodd Christina.

“Roedd yn hynod ysbrydoledig i weld y newid cadarnhaol roedd yn digwydd ym mywydau ein myfyrwyr.”

mind body soul

Yn y cyfamser, mae staff a myfyrwyr y coleg yn elwa o gyfarpar Technogym sydd newydd gael ei osod, gyda’r cyfleusterau yng Nglannau Dyfrdwy yn dod yn hwb o egni cadarnhaol a chymhelliant”.

Daeth unigolion ynghyd i gefnogi ac annog y naill a’r llall,” ychwanegodd Christina.

Mae’r adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol, mae myfyrwyr a staff wedi dweud fod defnyddio’r ystafell ffitrwydd wedi helpu eu hyder, gwella eu sgiliau cymdeithasol a’u helpu i gyflawni amcanion ffitrwyddeto, rhywbeth hynod ysbrydoledig i’w weld.”

I gael rhagor o wybodaeth am Cambria Heini, ewch i www.cambria.ac.uk/category/active-cambria neu dilynwch @colegcambria ar y cyfryngau cymdeithasol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.