17.7 C
Llanelli
Sunday, September 20, 2026
Home Newyddion Lle hyrchwyr o Gymru yn croesi Môr y Gogledd i archwilio cyfleoedd Nordig

hyrchwyr o Gymru yn croesi Môr y Gogledd i archwilio cyfleoedd Nordig

0
342
Welsh Government logo.svg
Welsh Government logo.svg

Mae archwilio cyfleoedd i allforio i’r gwledydd Nordig ar y gorwel ar gyfer grŵp o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru fel rhan o Ymweliad Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru â Norwy a Denmarc rhwng 17eg a 22ain Medi.

Mae’r ymweliad yn dilyn yn dynn ar sodlau’r newyddion bod Cymru wedi tyfu ei hallforion bwyd a diod 24.5% rhwng 2021 a 2022, cynnydd mwy na chynnydd cyffredinol y DU o 21.6%, a thuedd y mae’r ymweliad hwn yn gobeithio’i weld yn parhau.

Yn cymryd rhan yn yr Ymweliad Datblygu Masnach ac yn cynrychioli sector diodydd ffyniannus Cymru y mae Glamorgan Brewing, Penderyn Distillery a Devil’s Bridge Rum, gydag Express Contract Drying yn chwifio’r faner dros gynhyrchwyr cynhwysion o ansawdd uchel y genedl.

Wrth sôn am eu hymweliad, dywedodd Giancarlo Bianchi, Cyfarwyddwr Masnachol Penderyn, “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cymryd rhan yn yr Ymweliad Datblygu Masnach hwn â Norwy, yn enwedig gan mai Wisgi Cymreig Brag Sengl yw’r Gwirod newydd cyntaf yn y DU i gyflawni’r statws Dynodiad Daearyddol (GI) ers lansio GI y DU.  Roedd Penderyn Distillery yn un o bedair distyllfa Gymreig a oedd yn rhan o’r cais terfynol.  Mae cydnabyddiaeth GI yn fathodyn anrhydedd go iawn ac rydyn ni mewn cwmni gwych gyda chynhyrchwyr eraill o Gymru sydd wedi cael y gydnabyddiaeth hon.  Rydym yn allforio i lawer o wledydd ledled byd ac yn gwybod y gwerth y mae ein cwsmeriaid yn ei roi ar ansawdd a tharddiad ein cynnyrch ac edrychwn ymlaen at gyflwyno ein brand i farchnad Norwy. Mae’r gwledydd Nordig yn rhanbarth allweddol ar gyfer wisgi, felly mae’r cyfle i ymestyn ein hargaeledd yn y rhanbarth hwn yn un gwych.”

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Mae allforion bwyd a diod Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda’r canlyniadau gorau erioed yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddar. Mae hyn yn dyst i’r ymrwymiad a’r ysbryd arloesol sydd gan fusnesau ledled Cymru i sicrhau cynnyrch o ansawdd uchel.

“Mae cynhyrchwyr yn elwa’n fawr o gymryd rhan yn yr Ymweliadau Datblygu Masnach hyn sy’n cael eu cynllunio’n ofalus er mwyn iddynt allu elwa’n llawn a chynnwys, er enghraifft, cyfarfodydd wedi’u targedu’n dda ar brynwyr.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi’r ymweliad masnach hwn â Norwy a Denmarc, sy’n cynnig cyfle i allforwyr newydd a phrofiadol sefydlu a meithrin perthynas waith dramor. Dymunaf ymweliad llwyddiannus iawn i’r grŵp.”

Hefyd yn cymryd rhan yn yr ymweliad dwy ganolfan hwn mae Express Contract Drying, cynhyrchydd blaenllaw yn y DU a chyflenwr cynhwysion wedi’u sychu drwy chwistrellu yn cynnwys powdrau finegr, powdrau ffrwythau a sudd ffrwythau, powdrau braster micro wedi’u crynhoi, fitaminau wedi’u microgapsiwleiddio, powdrau o darddiad a enwir.  Dywedodd Pat McDonagh, Cyfarwyddwr Masnachol ECD, “Er ein bod eisoes yn allforio i nifer o wledydd, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i archwilio ac ymestyn ein cyrhaeddiad i farchnadoedd newydd.  Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfarfodydd wyneb yn wyneb â chwsmeriaid a chyflenwyr, gan gwrdd â rhagolygon newydd, cynnal ymchwil i’r farchnad, ac ymchwilio i’n cystadleuwyr.” 

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Stats Cymru, mae Cymru wedi bod yn cryfhau ei pherthynas fasnachu â Norwy a Denmarc dros y blynyddoedd diwethaf. Cynyddodd allforion o bob sector i Norwy ychydig dros 30% rhwng 2021 a 2022, ac i Ddenmarc dros 55% yn ystod yr un cyfnod.

Bydd Glamorgan Brewing hefyd yn ymuno â’r ddirprwyaeth, gan hyrwyddo ei hamrywiaeth o gwrw crefft. Dywedodd Soumitro Saha o Glamorgan Brewing, “Rydyn ni’n gyffrous o fod yn ymuno â’r Ymweliad Datblygu Masnach hwn a chael y cyfle i gyflwyno ein cynnyrch i’r yfwyr cwrw deallus yn Norwy a Denmarc. Dyma ein hymweliad marchnad tramor cyntaf gyda Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan bwysig o adeiladu ein busnes allforio. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phrynwyr ac ymchwilio ymhellach i’r marchnadoedd er mwyn llywio ein strategaeth allforio yn y dyfodol.”

Bydd yr Ymweliad Datblygu Masnach yn cynnwys derbyniad diodydd i brynwyr, gan roi cyfle gwych i arddangos ansawdd ac amrywiaeth y diodydd a gynhyrchir yng Nghymru. Mae gan yr holl gynhyrchwyr diodydd sy’n cymryd rhan yn yr ymweliad stori brand gref i’w rhannu â’r prynwyr. Mae’r ymweliad hefyd yn gyfle i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru cyn BlasCymru/TasteWales a gynhelir yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Casnewydd ar 25-26 Hydref 2023.

Mae Devil’s Bridge Rum yn cyfuno cynhwysion Cymreig â thraddodiadau distyllu Caribïaidd. Bydd y sylfaenydd, Gregor Shaw, yn cymryd rhan yn yr ymweliad a dywedodd: “Rydyn ni’n credu y bydd ein cynnyrch unigryw, sy’n cyfleu chwedlau a llên gwerin un o safleoedd eiconig Cymru, yn taro tant gyda phrynwyr a defnyddwyr yn Norwy a Denmarc gyda’n traddodiadau cryf o fythau a chwedlau. Rydyn ni’n falch bod ein rỳm yn cynnwys cynnyrch fel Bara Brith a menyn Cymreig gan fod hyn yn ein galluogi i siarad am y diwydiant bwyd ehangach yng Nghymru fel rhan o’n stori. Gyda’r ymweliad hwn, ein nod yw sefydlu perthynas hirhoedlog â dosbarthwyr a phartneriaid manwerthu, yn ogystal â chael cipolwg gwerthfawr ar sut mae ein cynnyrch yn cyd-fynd â’r farchnad yn Sgandinafia. Ein nod yn y pen draw yw ehangu ein hôl troed tra’n anrhydeddu ein treftadaeth Gymreig a chyfrannu at werthfawrogiad byd-eang o rỳm o ansawdd.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes gydag allforio, ewch i https://businesswales.gov.wales/export/cy/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.