10.5 C
Llanelli
Wednesday, March 18, 2026
Home Education BYDD RHAGLEN IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL UCHELGEISIOL yn creu llwybr hwylus i...

BYDD RHAGLEN IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL UCHELGEISIOL yn creu llwybr hwylus i ddyrchafiad a dilyniant i’r rhai sy’n gweithio yn y sector.

0
319
healthsocialcare2  scaled
healthsocialcare2 scaled

Wedi’i harwain gan Andrea Roberts, darlithydd ac arweinydd y rhaglen, bydd y cwrs gradd sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Brifysgol Cambria yn Wrecsam dros gyfnod o 2 flynedd. Mae’n rhoi llwybr hyblyg i ddysgwyr er mwyn iddynt ennill cymhwyster sydd wedi’iddylunio i fagu hydermewn amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol.

Gall myfyrwyr symud yn eu blaenau i ennill gradd lawn trwy gwblhau trydedd flwyddyn y cwrs ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd Andrea bod galw mawr am ragor o weithwyr ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol gan ddweud: “Rydw i’n tybio bod nifer o bobl yn meddwl bod y cyfleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig, ond bydd y sgiliau y byddent yn eu dysgu ar y cwrs yn rhai sy’n drosglwyddadwy ac mae llawer o yrfaoedd ar gael. Mae rhai nad ydy pobl yn ymwybodol ohonynt fel cynorthwyo pobl gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol, gwasanaethau plant, iechyd meddwl a rhagor.

Health and Social Care programme leader and lecturer Andrea Roberts, who leads the new-look foundation degree at Cambria’s University Centre in Wrexham, giving learners a flexible path to achieve a qualification “designed to build confidence” in a friendly and informal environment.

Mae’r cwrs hwn wedi’i grynhoi i gael ei gyflwyno ddeuddydd yr wythnos er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu parhau i weithio a bydd yn rhoi hwb i’r rhai sydd mewn cyflogaeth yn barod gan ehangu’r nifer o ddewisiadau sydd ar gael iddynt.

“Yn draddodiadol bydd nifer o bobl sy’n gweithio mewn gofal, ac yn enwedig gofal cymdeithasol, yn eithaf dibrofiad pan fyddent yn ennill swydd a dim ond cymwysterau academaidd sylfaenol fydd ganddynt. Yn aml dyna’r rheswm dros lefelau uchel o staff yn gadael.

Bydd nifer fawr o opsiynau ar gael iddynt yn os cânt eu hannog. Mae yna nifer o sefydliadau a gwasanaethau yn y trydydd sector sy’n gysylltiedig â’r gwyddorau cymdeithasol yn ogystal ag iechyd a gofal cymdeithasol sydd angen ymgeiswyr o ansawdd uchel, yn enwedig yma yn y gogledd ddwyrain.

Nid oes rhaid i ymgeiswyr dilyn y broses UCAS er mwyn gwneud cais. Dywedodd Andrea y bydd hyn yn ei dro yn debygol o ddenu rhagor o ymgeiswyr a fydd yn gallu cofrestru ar lein ar wefan y Ganolfan Brifysgol er mwyn cadw eu lle.

 Health and Social Care programme leader and lecturer Andrea Roberts, who leads the new-look foundation degree at Cambria’s University Centre in Wrexham, giving learners a flexible path to achieve a qualification “designed to build confidence” in a friendly and informal environment. 

Dywedodd Andrea “Os ydynt yn brofiadol ac yn aeddfed rydym yn eu croesawu.”

Mae gennym bobl yn ymuno â ni heb yr un TGAU. Fe gawsant swydd mewn gofal cymdeithasol ond mae eu diffyg cymwysterau yn golygu mai prin yw’r cyfleoedd sydd ganddynt i symud ymlaen. Dyna le gallwn ni helpu.

“Un o amcanion Cambria yw cael gwared ar rwystrau a darparu mynediad at addysg i bobl yn Wrecsam a thu hwnt. Mae’r cwrs gradd sylfaen hwn yn esiampl wych o hynny.”

Mae Andrea ei hun wedi dychwelyd i addysg yn ddiweddarach mewn bywyd i wireddu ei breuddwydion gyrfaol ei hun, a hynny ar ôl gweithio yn ystafell reoli Heddlu Gogledd Cymru, ac ar gyfer y cyngor lleol.

“Dwi wedi bod yn yr un sefyllfa fy hun. Yn ystod y ganrif ddiwethaf, wedi i fy mhlant dyfu, es ati i ennill gradd a chymhwyster TAR er mwyn gwireddu fy mreuddwyd o gael bod yn athrawesmeddai.

“Mae llwyddiant addysgol o fewn cyrraedd pawb, waeth beth fo’u cefndir. Yr hyn sy’n bwysig yw brwdfrydedd, ymrwymiad, gwaith caled a’r awydd i ddysgu. Nid yw’n fater o ba mor ddeallus yw unigolyn.

“Mae hyder yn allweddol ac rydym yn gwerthfawrogi y gall dychwelyd i’r dosbarth fod yn frawychus, ond mae gennym dîm arbennig a fydd yn gwneud eu gorau i sicrhau bod y trawsnewid mor rhwydd â phosibl.

“Mae llawer o swyddi ar gael ac mae angen hyfforddi ymgeiswyr sydd â sgiliau gwell, rhagor o brofiad ac sydd wedi’u haddysgu. Rydym yn gobeithio felly y bydd y bartneriaeth hon â Phrifysgol Bangor yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am FdA Iechyd a Gofal Cymdeithasol ewch i adran y Canolfan Brifysgol ar wefan Cambria: www.cambria.ac.uk/university-centre.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.