8.9 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Newyddion Lle £20m i wella mannau dysgu i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol

£20m i wella mannau dysgu i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol

0
290
ALN pic
ALN pic

Yn ystod ymweliad ag Ysgol y Bedol yn Sir Gaerfyrddin, cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y byddai £20m o gyllid yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion i drawsnewid profiadau plant anabl a’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r £20m o gyllid cyfalaf ar gyfer 2023-24 yn cael ei ddyrannu i wella amgylcheddau dysgu fel eu bod yn fwy cynhwysol ac i greu ardaloedd tawel neu synhwyraidd, gan gynnwys uwchraddio neu brynu offer newydd fel cymhorthion synhwyraidd arbenigol. Bydd y cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i wella’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at yr £20m o gyllid cyfalaf a fuddsoddodd Llywodraeth Cymru yn 2022-23 i gefnogi dysgwyr anabl a’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn 2022-23, fe ddefnyddiodd Ysgol y Bedol yn Sir Gaerfyrddin ei grant o £120,000 i ddatblygu ystafell synhwyraidd newydd a dwy ystafell ddosbarth, sydd â’r offer penodol i ddiwallu anghenion disgyblion ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth – yn  ogystal ag ardal chwarae awyr agored newydd.

Dywedodd Gethin Richards, Pennaeth Ysgol y Bedol:

“Mae’r datblygiad hwn wedi sicrhau bod modd i’n disgyblion gael eu haddysg mewn amgylchedd cynhwysol. Mae’r ystafell synhwyraidd yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ymlacio, ac mae’r ystafelloedd addysgu yn diwallu anghenion disgyblion ag awtistiaeth. Mae mannau penodol iddyn nhw allu datblygu ymwybyddiaeth o’u hemosiynau a mannau ar gyfer dysgu, ymchwil a chwarae hefyd.

“Mae’r ardal allanol yn lle i’r disgyblion archwilio’r byd o’u cwmpas mewn ffordd sy’n gwbl ddiogel iddyn nhw. Mewn cyfnod byr, mae’r disgyblion wedi ymgartrefu yn y dosbarthiadau newydd ac wedi gwneud cynnydd enfawr o ran eu datblygiad.

“Mae’r adnodd hefyd yn ein galluogi i gynnig arbenigedd a darpariaeth arbenigol i ddisgyblion ag awtistiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg – sy’n gwbl hanfodol i deuluoedd a phlant Cymraeg eu hiaith yn yr ardal.”

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Bydd y buddsoddiad hwn o £20m yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr anabl, a’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol, drwy sicrhau bod ein hysgolion yn hygyrch, a bod ganddyn nhw’r cyfleusterau i gefnogi dysgu cynhwysol.

“Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu mynediad i addysg o ansawdd uchel fel y gallant gyflawni eu potensial.”

Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi’r gwaith o weithredu’r diwygiadau addysg yng Nghymru, sy’n cynnwys y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, y Cwricwlwm i Gymru a’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

Bydd yr awdurdodau lleol yn penderfynu ar y gwelliannau sydd eu hangen ar ysgolion a lleoliadau yn seiliedig ar yr anghenion lleol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.