Mae Clwb Lles a Chinio Gogledd a Chanolbarth Cymru Barclays wedi codi swm gwych o £3,350 ar gyfer yr Uned Dydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais.
Mae Clwb Lles a Chinio Gogledd a Chanolbarth Cymru Barclays yn bwyllgor angerddol sy’n trefnu ac yn cefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol.
Cerddodd y clwb o’r Waun i Drefyclo, oedd tua 36 milltir, dros dridiau i godi’r arian.
Dywedodd Mark Powell, Arweinydd Codi Arian Elusennol y clwb: “Fe wnaethon ni gerdded, cerdded a dringo tri cham Llwybr Clawdd Offa gyda dringo cyfanswm o 6200 troedfedd. Bron yn cyfateb i ddringo’r Wyddfa ddwywaith!
“Roedd yn boeth iawn, ond roedd gennym ni dîm cefnogi gwych.
“Diolch enfawr i bawb am eich anogaeth, nawdd a rhoddion.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle