9.6 C
Llanelli
Friday, February 27, 2026
Home Farming Gweithdai am ddim i arwain ffermwyr ar welliannau i fuchesi a diadelloedd...

Gweithdai am ddim i arwain ffermwyr ar welliannau i fuchesi a diadelloedd i leihau allyriadau

0
301
Cath Tudor Prostock Vets scaled
Cath Tudor Prostock Vets scaled

Bydd nod uchelgeisiol Cymru o gyrraedd sero net erbyn 2050 yn gofyn am rai newidiadau i arferion amaethyddol, gan gynnwys gwella iechyd, perfformiad a chynhyrchiant y fuches a diadelloedd.

Gyda hynny mewn golwg, mae Cyswllt Ffermio yn cynnal gweithdai wedi’u hariannu’n llawn, sy’n cael eu darparu gan filfeddygon lleol i baratoi ar gyfer yr adeg y bydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) blaenllaw newydd Cymru yn cael ei gyflwyno.

Bydd y rhain yn helpu ffermwyr bîff, llaeth a defaid ddeall y prif gamau y gallant eu cymryd i gyflawni targedau allyriadau.

Bydd pob un o’r tri gweithdy’n canolbwyntio ar y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) – proses sydd wedi’i chynllunio i lywio cynhyrchiant, proffidioldeb a chynaliadwyedd busnes da byw drwy sicrhau iechyd a lles anifeiliaid.

Bydd ganddynt thema ganolog o ran sut y gellir defnyddio’r gwaith casglu data a meincnodi i asesu cynnydd, a sut y gall hyn helpu ffermwyr leihau eu hôl troed carbon.

Milfeddygon Mo Kemp, Richard Kemp a Kris Henry o Calcoed Vets, un o’r practisau cymeradwy sy’n cynnal y gweithdai hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid newydd yma yng Ngogledd Cymru..

Bydd cydweithio rhwng y ffermwr a’i filfeddyg a sut y gall hyn fod yn allweddol i lwyddiant hefyd yn cael ei archwilio, meddai Becky Summons, Rheolwr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio a Rheolwr E-ddysgu.

“Bydd y rhai sy’n mynychu’r gweithdai hefyd yn dod i ddeall manteision amgylcheddol rheoli’r fuches a’r ddiadell yn dda,”meddai.

Mae’r gweithdai hyn wedi’u hariannu’n llawn, ond i fod yn gymwys am y cyllid hwnnw, rhaid i bawb sy’n mynychu fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP).

Bydd presenoldeb yn y gweithdy’n cael ei gofnodi ar ‘Gofnod DPP ’ Storfa Sgiliau’r rhai sy’n bresennol a byddant yn cael tystysgrif presenoldeb’ Gwobrau Lantra.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu edrychwch ar wefan Cyswllt Ffermio www.llyw.cymru/cyswlltffermio.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.