13.2 C
Llanelli
Friday, October 16, 2026
Home Competition Gwneud i bob milltir gyfrif yng nghystadleuaeth IRONMAN eleni

Gwneud i bob milltir gyfrif yng nghystadleuaeth IRONMAN eleni

0
608
Ironman
Ironman

Wrth i gyfnod y Nadolig ddod i ben, ac i bobl droi eu sylw at Flwyddyn Newydd fwy heini a daionus, mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn cynnig cyfle unigryw i gadw’n heini a chodi arian ar gyfer achos teilwng.

Mae pedwar lle ar gael yn rhad ac am ddim yng nghystadleuaeth IRONMAN Cymru eleni, a fydd yn cael ei chynnal yn ne’r sir ddydd Sul 22 Medi 2024.

Fis Medi yma, bydd y digwyddiad poblogaidd yn croesawu miloedd o bobl a fydd yn rhoi cynnig ar nofio 2.4 milltir, beicio am 112 milltir, a rhedeg marathon ar hyd rhai o lwybrau mwyaf heriol de Sir Benfro.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Gan fod pob lle ar gyfer cofrestru wedi’u cymryd, dyma gyfle euraidd nid yn unig i gymryd rhan yn y digwyddiad eiconig hwn, ond hefyd i gael effaith barhaol ar warchod ein tirweddau arfordirol godidog.

“Os ydych chi’n frwd dros awyr agored Sir Benfro, ac yn mwynhau ymgymryd â heriau corfforol, cysylltwch â ni.

“Byddai angen i’r rhai sydd awydd ymgymryd â’r her ymrwymo i godi isafswm o £750, a byddai angen i’r Ymddiriedolaeth dderbyn y swm llawn a addawyd erbyn diwedd mis Awst.”

Os hoffech chi fanteisio ar y cynnig i hawlio eich lle yn y ras yn rhad ac am ddim, dylech anfon eich datganiadau o ddiddordeb at support@pembrokeshirecoasttrust.wales.

Mae rhagor o wybodaeth am IRONMAN Cymru ar gael yn https://www.ironman.com/im-wales.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.