8.9 C
Llanelli
Wednesday, March 11, 2026
Home Newyddion Lle Newidiadau nodedig yn cael eu cyflwyno gan Wasanaeth Gwaed Cymru i gynyddu...

Newidiadau nodedig yn cael eu cyflwyno gan Wasanaeth Gwaed Cymru i gynyddu cyfraddau goroesi canser y gwaed ac anhwylderau gwaed

0
291
Emma and Chris at her graduation min
Emma and Chris at her graduation min

Gall mwy o bobl nag erioed o’r blaen ymuno â chofrestr mêr esgyrn Gwasanaeth Gwaed Cymru i helpu cleifion i oresgyn canserau gwaed ac anhwylderau gwaed, mewn newidiadau a gyflwynwyd i nodi Diwrnod Canser y Byd (4 Chwefror).

Er mai dim ond pobl ifanc 17 i 30 oed oedd yn cael ymuno â’i Gofrestr yn flaenorol, erbyn hyn, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn caniatáu i bobl ifanc 16 oed i gofrestru eu diddordeb ymlaen llaw i ymuno, ac yn codi’r terfyn oedran uchaf i 45 oed ar gyfer gwirfoddolwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Gymysg.

Mae’r newid wedi cael croeso mawr gan gyn-gleifion a goroeswyr ar draws y byd, gan gynnwys Emma Capps, Americanes a oroesodd anhwylder gwaed prin a wnaeth fygwth ei bywyd, ar ôl iddi dderbyn rhodd bôn-gelloedd (sydd yn cael ei alw’n mêr esgyrn hefyd) gan y Cymro 33 oed, Chris Nunn o Ben-y-bont ar Ogwr.

Aeth Emma, o California, UDA, yn ddifrifol wael yn 2015 yn 18 oed ac am flynyddoedd, roedd ei meddygon yn cael trafferth yn ceisio darganfod beth oedd yn achosi ei salwch. Yn y diwedd, cafodd Emma ddiagnosis o fath o anhwylder gwaed o’r enw HLH (haemophagocytic lymphohistiocytosis). Mae HLH yn gyflwr tebyg i lewcemia, sy’n bygwth bywyd, ac mae cleifion yn gorfod mynd drwy gemotherapi, imiwnotherapi, triniaeth steroid neu drawsblaniad bôn-gelloedd, cyn belled ag y gellir dod o hyd i roddwr addas.

Dros 5,000 milltir i ffwrdd yng Nghymru, daethpwyd o hyd i Chris, dieithryn llwyr, a roddodd ei fôn-gelloedd ym mis Mai 2017, i helpu i ddarparu triniaeth achub bywyd i Emma i oresgyn ei salwch.

Aeth Emma ymlaen i ennill dwy radd anrhydedd ar ôl ei gilydd – gradd BA yn y Celfyddydau Llenyddol o Ivy League, Brown University a gradd anrhydedd BFA mewn Darlunio o Rhode Island School of Design. Mae Emma bellach yn astudio TAR mewn Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Caergrawnt yn Lloegr.

Emma in Hospital

Wrth siarad am ei phrofiad, meddai Emma: “Dyn nad oeddwn erioed wedi ei gyfarfod oedd yr unig berson a allai achub fy mywyd. Doedd dim o fy nheulu yn gymwys i roi gwaed, felly cefais fy rhoi ar gofrestr fyd-eang o gleifion oedd yn chwilio am rywun oedd yn cydweddu â nhw – a diolch byth, fe wnes i ddod o hyd i Chris, hanner ffordd o amgylch y byd yng Nghymru!”

Dim ond un o bob pedwar claf fydd yn dod o hyd i aelod o’r teulu sy’n cydweddu â nhw, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o gleifion yn dibynnu ar roddion gan wirfoddolwyr ar gofrestrfeydd ar draws y byd, sydd ddim yn perthyn iddyn nhw.

Aeth Emma ymlaen i ddweud: “Wnes i ddim gwastraffu’r rhodd werthfawr hon. Fe wnes i weithio’n galed iawn i gael fy mywyd nôl ar y trywydd iawn. Chris yw’r rheswm pam fy mod i’n sefyll yma heddiw, ar ôl cyflawni’r holl bethau anhygoel hyn.

“Bydd y newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac rwy’n gobeithio, drwy rannu fy stori, y bydd mwy o bobl yn gwybod pa mor bwysig yw hi i ymuno â Chofrestr Gwasanaeth Gwaed Cymru.”

Wrth esbonio ei gymhellion dros gofrestru i roi ei fôn-gelloedd, meddai Chris: “Fe wnaeth fy mam farw o ganser pan oeddwn i’n 12 oed, felly pan ddaeth Gwasanaeth Gwaed Cymru i’n swyddfa a chlywais faint o wahanol ffyrdd y gallwn helpu pobl, roedd yn rhywbeth roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi gymryd rhan ynddo. 

Emma being discharged from hospital following stem cell treatment from Chris

“Fe wnes i gofrestru fel gwirfoddolwr bôn-gelloedd pan roeddwn yn rhoi gwaed mewn clinig symudol, ond does dim angen i chi hyd yn oed fod yn rhoddwr gwaed erbyn hyn, gallwch gofrestru trwy ddefnyddio cit swab, wedi’i ddanfon yn syth i’ch drws.

“Wnes i ddim clywed dim tan 17 mlynedd yn ddiweddarach, pan gefais wybod fy mod yn cydweddu â rhywun mewn angen.  

Fe wnaethon nhw ddweud bod y claf yn fenyw 19 oed ac yn byw yn America, ac fe wnaeth hyn gyffwrdd fy nghalon go iawn, gan fod fy llysfab yn 19 oed ar y pryd hefyd. Ni ddylai unrhyw deulu orfod mynd trwy beth yr aeth teulu Emma drwyddo. Buaswn yn ei wneud o eto ‘fory petasai’n golygu helpu rhywun arall.”

Ar ôl rhoi gwaed, mae polisi dienw dwy flynedd yn atal rhoddwyr a chleifion rhag rhannu gwybodaeth am ei gilydd. Yn y cyfnod hwn, fe wnaeth Emma a Chris ysgrifennu llythyrau at ei gilydd trwy Wasanaeth Gwaed Cymru ac yn y pen draw, fe wnaethant gyfnewid eu manylion cyswllt a dechrau perthynas hir o anfon e-byst cyn iddynt gyfarfod o’r diwedd y llynedd yn America.

Wrth sôn am ei ymweliad, meddai Chris: “Y tro cyntaf y gwnaethon ni gyfarfod, fe wnaeth Emma redeg tuag ataf yn gweiddi, cyn lapio ei breichiau o fy nghwmpas. Dyna’r foment y daeth yn glir beth roeddwn i wedi’i wneud, a nawr, ‘dwi’n ei chyfrif fel aelod o fy nheulu. Roedd yn un o’r profiadau mwyaf calonogol i mi ei gael erioed.”

Er bod dros 40 miliwn o bobl ar y gofrestr bôn-gelloedd ar draws y byd, ni fydd tri o bob deg claf yn dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw, ac mae’r ystadegyn hwn yn mynd i fyny saith o bob deg ar gyfer cleifion o gefndiroedd Du, Asiaidd, cymysg neu ethnig leiafrifol.

Meddai Pennaeth Cofrestr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Christopher Harvey: “Mae’r siawns o gael eich dewis fel rhywun sydd yn cydweddu’n berffaith â chlaf unrhyw le yn y byd yn brin iawn, ond mae’r cyfle i ddod o hyd i rywun sy’n cydweddu sy’n achub bywydau yn cynyddu wrth i fwy o roddwyr gofrestru. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl o gefndir Du, Asiaidd, cymysg neu ethnig leiafrifol.

Dim ots o ble rydych chi’n dod, efallai mai chi yw’r unig berson yn y byd a allai fod yn cydweddu â rhywun, ac achub bywyd rhywun. P’un a ydych chi’n gymwys i ymuno, neu’n adnabod rhywun sydd yn gymwys i ymuno, siaradwch am y Gofrestr hon sy’n newid bywydau, a helpwch i roi cyfle i fwy o gleifion oresgyn eu salwch.”

Mae dwy ffordd o ymuno â chofrestr mêr esgyrn Gwasanaeth Gwaed Cymru; drwy ofyn am git swab ar-lein, neu drwy roi gwaed. I gefnogi neu gofrestru, ewch i www.welshblood.org.uk .


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.