6.7 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Newyddion Lle St John Ambulance Cymru yn anelu at greu miloedd yn fwy o...

St John Ambulance Cymru yn anelu at greu miloedd yn fwy o achubwyr bywyd fel Dave yn ystod ymgyrch ‘Defibruary’

0
354
Defib2024
Defib2024

Mae heddiw’n nodi dechrau ‘Defibruary’, ymgyrch flynyddol St John Ambulance Cymru, sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr mewn cymunedau ledled Cymru.

Yn dilyn ataliad y galon, mae siawns person o oroesi yn cael ei leihau 10% am bob munud sy’n mynd heibio heb weithredu. Mae elusen cymorth cyntaf Cymru eisiau i fwy o bobl ledled y wlad deimlo’n hyderus wrth leoli a defnyddio eu diffibriliwr agosaf, er mwyn i fwy o fywydau gael eu hachub.

Cyn iddo ddysgu sgiliau cymorth cyntaf gyda’r elusen, ni ddychmygodd Dave High, gwirfoddolwr St John Ambulance Cymru, y byddai’n gallu achub bywyd, ond y llynedd yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol yn Llangollen, fe wnaeth yn union hynny.

Ym mis Gorffennaf 2023, roedd Dave yn gwirfoddoli yn y digwyddiad cerddol pan wnaeth aelod o’r cyhoedd ddioddef ataliad y galon. Defnyddiodd y sgiliau yr oedd wedi’u dysgu gydag St John Ambulance Cymru i helpu i achub bywyd y gŵr gan ddefnyddio CPR a diffibriliwr.

Roedd y gŵr oedrannus wedi llewygu yn y maes parcio y tu allan i’r digwyddiad tua diwedd y cyngerdd. Galwodd gwraig y gŵr a’r rhai gerllaw am help yn gyflym ar sylwi roedd y dyn yn anymatebol. Yn ffodus, roedd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nad oedd ar ddyletswydd yn ymweld â’r Eisteddfod gerllaw, a dechreuodd CPR ar unwaith. Aeth Dave ac aelod o’i dîm gwirfoddol, Cassie, i’r lleoliad yn gyflym i helpu gyda dadebru.

Ar ôl sawl rownd o CPR gan wirfoddolwyr a’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nad oedd ar ddyletswydd, a siociau amrywiol gan ddiffibriliwr, dechreuodd y claf i anadlu.

“Fel person sydd ddim yn gweithio yn y maes meddygol o gwbl, dyna oedd y peth mwyaf brawychus ond mwyaf boddhaus i mi ei wneud erioed” meddai. “Dwy flynedd yn ôl, fyddwn i byth wedi meddwl y byddwn i hyd yn oed yn mynd i’r Eisteddfod, heb sôn am achub bywyd wrth wisgo gwisg yr wyf mor falch o allu ei gwisgo.”

Ychwanegodd Dave: “Pan ddigwyddodd y gwaethaf, wnes i ddim gor-feddwl, wnes i ddim oedi, doedd dim teimlad o ‘Rwy’n gobeithio na fyddaf yn gwneud llanast o hyn’.” Yn syml, dilynodd ei hyfforddiant ac o ganlyniad, achubodd fywyd yn llwyddiannus.

Ym mis Chwefror eleni mae’r elusen yn gofyn i bobl Cymru Ddysgu, Lleoli a Rhoi fel y gallant hefyd gamu i mewn i helpu i achub bywyd pe bai rhywun yn agos atynt angen cymorth.

Mae St John Ambulance Cymru yn cynnal arddangosiadau cymorth cyntaf am ddim i ysgolion, grwpiau cymunedol a chlybiau trwy gydol y mis ac mae’n annog pobl i estyn allan a threfnu sesiwn. I gael gwybodaeth fanylach am gymorth cyntaf, gallwch hefyd archebu lle ar gwrs cymorth cyntaf ardystiedig yn y gweithle gyda’u tîm o hyfforddwyr premiwm.

Gallai dysgu sut i gyflwyno CPR yn gyflym ac yn hyderus a defnyddio diffibriliwr, olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, yn union fel y gwnaeth gyda Dave.

Capsiwn: Dave High yn gwisgo ei wisg St John Ambulance Cymru yn llawn balchder © St John Ambulance Cymru.

Bydd digwyddiadau cyhoeddus cyntaf yr ymgyrch yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd, lle bydd arddangosiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal ddydd Gwener 2 a dydd Sadwrn 3 Chwefror rhwng 10am a 4pm.

Mae’r elusen cymorth cyntaf hefyd yn annog pobl Cymru i ddod o hyd i’w diffibriliwr agosaf a chofrestru unrhyw un y maent yn gyfrifol amdano gyda The Circuit. The Circuit yw’r rhwydwaith diffibriliwr cenedlaethol y mae’r gwasanaethau brys yn ei ddefnyddio i gyfeirio pobl mewn argyfwng. Ewch i http://www.thecircuit.uk i leoli neu gofrestru eich un agosaf heddiw.

Mae’r ymgyrch Defibruary hefyd yn codi arian ar gyfer diffibrilwyr cyhoeddus newydd ar adeiladau Adrannol St John Ambulance Cymru ledled Cymru. Yn ogystal â gweithredu fel canolfannau cymunedol ar gyfer gwirfoddolwyr yr elusen, mae’r adeiladau Adrannol hefyd yn cael eu defnyddio at ddibenion hyfforddi a chymunedol amrywiol.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am ymgyrch Defibruary, ewch i www.sjacymru.org.uk/defibruary  i drefnu cwrs neu i wneud cyfraniad heddiw.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.