17.5 C
Llanelli
Saturday, September 19, 2026
Home Newyddion Lle Mam yn canmol manteision sylweddol rhaglen Dechrau’n Deg i’w merch

Mam yn canmol manteision sylweddol rhaglen Dechrau’n Deg i’w merch

0
407
Flying start picture2
Flying start picture2

Welsh Government News

Mae mam sydd wedi elwa o ehangu rhaglen Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru wedi canmol y cynllun am y fantais y mae wedi’i roi i’w phlentyn ieuengaf.

Mae merch Stephanie Thomas yn mynychu meithrinfa ddydd Little Sprouts yng Nghastell-nedd fel rhan o’r fenter, ac mae Stephanie’n dweud bod ansawdd y ddarpariaeth yn rhagorol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei tharged diweddaraf ar gyfer cam 2 yng nghynllun ehangu’r rhaglen, gyda 4,500 o leoedd gofal plant ychwanegol yn cael eu cynnig yn ystod 2023-24.

Mae ehangu rhaglen Dechrau’n Deg yn rhan o broses raddol i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwyflwydd oed yng Nghymru, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg. Dyma un o ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae cam presennol ehangu Dechrau’n Deg yn canolbwyntio ar ddarparu gofal plant rhan-amser, wedi’i ariannu, o ansawdd uchel i blant rhwng dwy a thair oed sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.

Dywedodd Mrs Thomas:

“Pan ddechreuon ni gyntaf roedd gan fy merch broblemau ymlyniad, felly roedd hi’n anodd iawn ei gadael. Ond roedd y staff mor dda gyda hi, fe wnaethant y broses o bontio mor hawdd. Mae hi wrth ei bodd yn mynd yno nawr.”

Dywedodd Mrs Thomas ei bod yn teimlo bod ei merch wedi elwa’n sylweddol o’r gofal a gafodd diolch i’r rhaglen.

Ychwanegodd:

“Mae datblygiad enfawr wedi bod yn ei sgiliau cymdeithasol a’i gallu i gyfathrebu.”

“Mae hi nawr yn paratoi i ddechrau mynd i’r ysgol am hanner diwrnodau ym mis Mawrth, ac rwy’n gwybod y bydd y profiad hwn yn helpu’n aruthrol gyda hynny.”

“Ni chafodd fy merch arall, sydd bellach yn yr ysgol, yr oriau o ofal plant am ddim. Mae fy merch ieuengaf filltiroedd ar y blaen o’i chymharu â fy merch arall ar y pryd.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn ein hymdrechion i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.”

“Mae Gofal Plant Dechrau’n Deg yn wasanaeth hanfodol sy’n helpu plant i ddysgu, i dyfu ac i ffynnu.”

“Yn ei sgil, rydym yn cyrraedd at fwy o deuluoedd a all elwa o’r cynnig hwn ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.”

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, darparwyr gofal plant a phartneriaid eraill i sicrhau ansawdd a chynaliadwyedd gofal plant Dechrau’n Deg.”

Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru:

“Mae gennym raglen uchelgeisiol i wella gofal plant yng Nghymru ac rwy’n falch iawn ein bod yn gwneud cynnydd sylweddol ar ein hymrwymiad i gynnig gofal plant i bob plentyn dwyflwydd oed yng Nghymru, gyda 4,500 o leoedd gofal plant yn cael eu cynnig fel rhan o’r cynllun ehangu.

“Mae’r rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i deuluoedd ac i flynyddoedd cynnar datblygiad plant. Hoffwn ddiolch i bawb sydd ynghlwm â’r cynllun am eu gwaith caled wrth ein helpu i sicrhau bod plant iau yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ofal plant. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i ddarparu ein rhaglen gofal plant.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.