10.7 C
Llanelli
Thursday, March 12, 2026
Home Education Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

0
368
Ben Lewis
Ben Lewis

 

Mae gwefan newydd wedi’i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. Mae dysgutrwyrundeb.cymru yn rhoi gwybodaeth am raddau’r Brifysgol Agored a chyrsiau am ddim, yn ogystal â’r cyllid sydd ar gael i holl weithwyr Cymru.

Mae’r wefan newydd yn cynnwys disgrifiadau o gyrsiau’r Brifysgol Agored i bobl sydd am uwchsgilio neu newid eu gyrfa. Mae’r rhain yn cynnwys graddau israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â chyrsiau Mynediad a all helpu pobl i gymryd cam i addysg uwch am y tro cyntaf.

Gall defnyddwyr hefyd gael gwybod am Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF), sydd wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl i ddysgu drwy eu hundeb ac yn y gweithle. Gellir defnyddio’r gronfa tuag at astudio cyrsiau Mynediad a meicro-gymhwysterau gyda’r Brifysgol Agored.

Mae gan dysgutrwyrundeb.cymru hefyd gyflwyniad i OpenLearn, gwefan dysgu am ddim y Brifysgol Agored. Yma, gall defnyddwyr bori dros 10,000 o oriau o ddysgu am ddim, gan gynnwys cyrsiau ar-lein, fideos, erthyglau a gemau.

Dywedodd Ben Lewis, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Mae astudio gyda’r Brifysgol Agored yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd a datgloi eich potensial, wrth ichi reoli ymrwymiadau eraill fel gwaith a theulu.

“Gallech fod yn rhywun sydd eisoes â gradd ac sy’n edrych i newid eich galwedigaeth. Neu, efallai nad oes gennych gefndir mewn addysg uwch, a’ch bod am gymryd eich camau cyntaf i ddysgu fel oedolyn. Y naill ffordd neu’r llall, mae dysgutrwyrundeb.cymru yn fan cychwyn i gael gwybod am addysg oedolion a sut y gall eich helpu yn eich gyrfa.

Shavanah Taj – credit Francesca Jones Photography

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae dysgu am oes. Dylai pob gweithiwr gael y cyfle i uwchsgilio a magu eu hyder trwy ddysgu.

“Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda’r Brifysgol Agored ar y wefan newydd gyffrous hon sy’n darparu miloedd o oriau o ddysgu am ddim. Gall dysgwyr hefyd fanteisio ar gymorth ariannol drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, sy’n agored i bob gweithiwr yng Nghymru, i gael mynediad at gyrsiau gan gynnwys meicro-gymwysterau trwy’r Brifysgol Agored.

“Edrychwn ymlaen at barhau â’n perthynas gref â’r Brifysgol Agored i gefnogi dysgwyr yn y gweithle ledled Cymru.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.