14.7 C
Llanelli
Friday, September 18, 2026
Home Charity Grŵp Gwreiddiau i Adferiad yn cael ei enwebu am wobr

Grŵp Gwreiddiau i Adferiad yn cael ei enwebu am wobr

0
610
Roots to Recovery 2
Roots to Recovery 2

Mae grŵp llesiant lleol sy’n canolbwyntio ar y pŵer gwella sydd gan fyd natur wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr yng Ngwobrau Sifil Cyngor Tref Penfro eleni.

Cynhelir y Gwobrau bob blwyddyn a’u nod yw cydnabod unigolion/sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r gymuned neu sydd wedi dod ag anrhydedd i dref Penfro.

Mae Gwreiddiau i Adferiad yn waith partneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Mind Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, ac mae’n brosiect sy’n cael ei arwain gan bobl ac sy’n canolbwyntio ar bwerau adferol awyr agored anhygoel Sir Benfro, yn enwedig ei Pharc Cenedlaethol.

Mae rhaglen o weithgareddau ar gael o hybiau yng Nghanolfan Adnoddau Mind Sir Benfro yn Hwlffordd a Neuadd y Dref Penfro. Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch, yn hwyl ac weithiau’n hamddenol, gyda’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys mentoriaid sy’n cefnogi cyfranogwyr eraill a gweithgareddau sy’n cael eu cynnal o’r hybiau.

Roots to Recovery

Mae’r gweithgareddau nodweddiadol yn cynnwys teithiau cerdded (sy’n addas i amrywiaeth o alluoedd), celf a chrefft ar thema awyr agored, cymryd rhan mewn prosiectau lleol fel gerddi cymunedol, gwirfoddoli yn y Parc Cenedlaethol ac o’i gwmpas, a chyfleoedd i fwynhau tirweddau trawiadol yr ardal.

Dywedodd Maisie Sherratt, Swyddog Gwreiddiau i Adferiad: “Rwy’n gwybod fy mod yn siarad ar ran yr holl staff ar y prosiect pan ddywedaf ein bod yn hynod falch o’r cyfranogwyr a’r mentoriaid yma yn Gwreiddiau i Adferiad. Mae’r ymdrech a’r ymrwymiad y mae pob un yn ei roi i’r prosiect yn rhyfeddol. Mae’n fraint gweithio ochr yn ochr â phobl sy’n awyddus i gael effaith mor anhygoel.”

Bydd Panel y Gwobrau yn ystyried pob enwebiad, a chyflwynir y gwobrau mewn derbyniad yn Neuadd y Dref Penfro ddydd Mawrth 23 Ebrill.

Mae rhagor o wybodaeth am gymryd rhan yn y prosiect Gwreiddiau i Adferiad neu am wirfoddoli ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/gwreiddiau-i-adferiad/, neu drwy ymweld â thudalen Facebook Gwreiddiau i Adferiad ynwww.facebook.com/profile.php?id=100068679281023.

Cefnogir Gwreiddiau i Adferiad drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tan fis Medi 2024


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.