Codwyr arian i ymgymryd â thaith seiclo 112 milltir ar gyfer Uned Gofal Arbennig i Fabanod

0
229

Bydd hyfforddwr y gôl-geidwad Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, Dave Owen a’i ffrindiau yn cymryd rhan yn y daith seiclo 112 milltir ym Mhenwythnos Cwrs Hir Cymru yn Ninbych-y-pysgod ar 22 Mehefin 2024 i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

 

Treuliodd merch ieuengaf Dave, Erin, bron i fis yn y SCBU pan gafodd ei geni.

 

Dywedodd Dave, o Lanrhystud: “Cefnogodd yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod Erin gyda rhai o’r heriau a wynebodd yn ei dyddiau cynnar. Ganwyd Erin yn gynnar mewn amgylchiadau annisgwyl ac i ddechrau roedd angen cymorth i anadlu ac roedd angen ei monitro gan nifer o beiriannau.

 

“Treuliodd dros bythefnos mewn crud cynnal, gyda’r nyrsys gwych a staff y ward yn darparu gofal parhaus wrth iddynt archwilio i rai o’i hanghenion iechyd. Er bod Erin yn parhau i fynychu nifer o apwyntiadau ysbyty a meddyg, mae’r amser a dreuliodd yn y SCBU wedi rhoi’r dechrau gorau y gallai fod wedi’i gael. Oherwydd y bobl ryfeddol hyn, mae Erin wedi tyfu i fod yn ferch fach hapus, chwareus a gofalgar, ac er efallai bod rhai llwybrau dyrys o’i blaen, fe fydden nhw’n llawer mwy anodd oni bai am ofal yr uned.

 

“Y nod yw codi £2,000, gyda’r holl arian yn mynd tuag at SCBU i’w helpu i barhau â’u gwaith anhygoel gyda babanod newydd-anedig bregus ac anhwylus eraill yn yr ardal.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddweud pob lwc i Dave a’i ffrindiau yn y daith seiclo ym Mhenwythnos Cwrs Hir 2024.

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

Cyfrannwch at godwr arian Dave yma: https://www.justgiving.com/page/dave-owen-1709550975303?utm_medium=fundraising&utm_content=page%2Fdave-owen-1709550975303&utm_source=copyLink&utm_campaign=pfp-share

 

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle