8.4 C
Llanelli
Friday, February 27, 2026
Home Education Bydd cyfres newydd o ddigwyddiadau agored i oedolion yn cael eu cynnal...

Bydd cyfres newydd o ddigwyddiadau agored i oedolion yn cael eu cynnal yng Ngholeg Cambria yn yr haf.

0
349
cambriadeeNEW1
cambriadeeNEW1

Bydd sesiynau’n cael eu cynnal ar y safleoedd canlynol fis nesaf:

Glannau Dyfrdwy: Dydd Mercher 5 Mehefin – 5pm-7pm

Iâl, Wrecsam: Dydd Iau 6 Mehefin – 5pm-7pm

Ffordd y Bers: WrecsamDydd Iau 6 Mehefin – 5pm-7pm

Mae’r coleg wedi cynnal llu o weithgareddau elenisydd â safleoedd yn Llaneurgain a Llysfasi hefyd. Aeth llawer o bobl i’r digwyddiadau, gan gynnwys pobl a oedd yn gobeithio ail-addysgu a dysgu sgiliau newydd, neu’r rhai oedd yn cynllunio newid gyrfa, rhai oedd eisiau hobi newydd, neu eisiau datblygu yn eu swydd bresennol.

Lâl, Wrecsam

Dywedodd y Pennaeth, Sue Price: “Mae ein digwyddiadau agored arferol yn llwyfan wych i oedolion o bob oed yn y Gogledd Ddwyrain ac ardaloedd eraill i archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

“Mae yna ddewis eang o gyrsiau rhan-amser a rhaglenni ar gael, sy’n berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau troi hobi yn fenter fasnacholyn enwedig ar ôl Covid, o gyrsiau Cymraeg i Oedolion i raddau AU (Addysg Uwch) a BTEC.”

Ychwanegodd Mrs Price: “Mae llawer o’r cyrsiau yma wedi’i hariannu’n llawn, yn hyblyg ac yn apelio at lawer o ddiwydiannau felly mae yna rywbeth at ddant pawb ac mi fydd ein staff ni ar gael i siarad am ffactorau eraill, gan gynnwys cofrestru a chyllid.”

Ffordd y Bers: Wrecsam

Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru roedd cyfradd llwyddo cyrsiau dysgu i oedolion yn 84% yn 2022/23, sy’n gynnydd o 3% ers y flwyddyn flaenorol.

Roedd cynnydd o 45% yn y nifer o weithgareddau dysgu y gellir eu hasesu a gafodd eu cyflwyno’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol yn 2022/23 o’i gymharu â 2021/22, ac Addysg a Hyfforddiant, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill a Gwyddoniaeth a Mathemateg oedd gyda’r cynnydd mwyaf mewn cyfraddau llwyddo yn 2022/23 o’i gymharu â 2021/22.

Mae’r nifer o oedolion sy’n dychwelyd i addysg wedi cynyddu, hyd yn oed yn rhan-amser,” meddai Mrs Price.

“Mae llawer o bobl yn chwilio am opsiynau sy’n ffitio o amgylch eu gyrfa, teulu, a bywydau bob dydd, p’un ai fod hynny’n dysgu o bell, cyrsiau nos neu ddarpariaeth yn eu cymuned.

“Mae Coleg Cambria yn benderfynol o ddarparu cymaint o gyfleoedd â phosib i’r rhai sydd eisiau cymryd y camau nesaf yn eu haddysg. Bydd digwyddiadau agored yn dangos y ffordd iawn i’r rhai sydd â diddordeb mewn cyrsiau nos a phrentisiaethau a allai ffurfio pennod gyffrous nesaf yn eu bywydau neu yrfaoedd.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw eich lle, dilynwch sianeli cyfryngau cymdeithasol Coleg Cambria ac ewch i’r wefanwww.cambria.ac.uk/ymgyrchoedd/digwyddiadau-agored-addysg-i-oedolion.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.