11 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home Newyddion Lle Rhaglen i hybu cyrhaeddiad mewn ysgolion yn parhau am ail gyfnod

Rhaglen i hybu cyrhaeddiad mewn ysgolion yn parhau am ail gyfnod

0
302
18 4 24 WG EDU 107A0150 1 scaled
18 4 24 WG EDU 107A0150 1 scaled

Bydd cynllun peilot y Pencampwyr Cyrhaeddiad, sydd wedi ei greu i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol dysgwyr, yn cael ei estyn i ail gyfnod er mwyn codi safonau mewn ysgolion ymhellach.

Roedd cyfnod peilot y prosiect yn dangos bod y defnydd o weithio ar y cyd, mentora ysgolion partner a rhannu arferion arloesol wedi cael effaith gadarnhaol ar wella’r profiadau addysgol i ddysgwyr sy’n wynebu anfantais.

Nododd ysgolion a gymerodd ran yn y cynllun peilot eu bod wedi gweld gwelliant trwy arweinyddiaeth a datblygiad Addysgu a Dysgu o ansawdd uchel, mwy o hyder o fewn timau arweinyddiaeth a strategaethau sy’n mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Bydd Cam Dau yn dechrau ym mis Medi, a bydd rhagor o ysgolion partner yn cael eu recriwtio. Yn ystod yr ail gam bydd pob Pencampwr Cyrhaeddiad yn cael ei baru ag ysgolion partner ychwanegol i roi mwy o gyfle i ddysgu a datblygu gwybodaeth ac arferion gorau.

Mae’r Pencampwyr Cyrhaeddiad a benodwyd wedi dangos cynnydd cyson wrth fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn eu hysgolion. Maent yn cynnig cefnogaeth i gymheiriaid mewn ysgolion ac yn helpu i lywio polisi Llywodraeth Cymru ynghylch cyrhaeddiad addysgol.

Bydd ehangu gwaith y Pencampwyr Cyrhaeddiad hefyd yn cyfrannu at waith y Rhaglen Partneriaeth Gwella Ysgolion, a fydd yn adeiladu ar rwydweithiau cymheiriaid a chymorth cydweithio lleol i wella safonau ysgolion.

Yn gynharach y mis hwn, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg â rhai o’r Pencampwyr Cyrhaeddiad i glywed yn uniongyrchol sut roedd y rhaglen yn helpu i wella cyrhaeddiad addysgol, pa ddulliau oedd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf a beth oedd y prif rwystrau rhag gwella cyrhaeddiad.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

“Mae gwelliannau parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae hon yn enghraifft wych o’n hymrwymiad i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Trwy ddod ag arweinwyr ac ysgolion ynghyd ledled Cymru, gallwn ni weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar ein pobl ifanc, ac yn sgil hynny gwella’r canlyniad ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. 

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar welliant parhaus mewn ysgolion a bydd y Pencampwyr Cyrhaeddiad, ochr yn ochr â ffocws ar sgiliau hanfodol llythrennedd a rhifedd, a’r Cwricwlwm i Gymru, yn helpu i godi safonau a dyheadau. Hoffwn i ddiolch i’n holl Bencampwyr Cyrhaeddiad am eu cyfraniadau hyd yn hyn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw dros y flwyddyn nesaf i adeiladu ar ganfyddiadau cadarnhaol y rhaglen beilot.”

Dywedodd Innes Robinson, Pencampwr Cyrhaeddiad, a Phennaeth Gweithredol Ysgolion Uwchradd Pencoedtre a Whitmore:

“Roedd y cynllun peilot yn gyfle amhrisiadwy i rannu ymarfer seiliedig ar dystiolaeth sydd â’r potensial i leihau’r bwlch cyrhaeddiad. Cydweithiodd Ysgol Uwchradd Whitmore ac Ysgol Bryn Alyn yn agos â’i gilydd i weithredu dull addysgu uniongyrchol a dull ar gyfer addysgu gallu cymysg sydd wedi profi i gael effaith gadarnhaol ar gau’r bwlch. Mae’r ddwy ysgol yn edrych ymlaen at y cyfle i ehangu’r rhaglen.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.