9.7 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home hywel dda health board Pobl ifanc Hywel Dda yn dathlu gyda Walter y pengwin

Pobl ifanc Hywel Dda yn dathlu gyda Walter y pengwin

0
335
922feead6730c65a org
922feead6730c65a org

Mae pengwin cyfeillgar yn ardal Hywel Dda yn helpu i dawelu meddyliau plant sy’n derbyn gofal gan y tîm meddygaeth niwclear.

Gall y geiriau ‘meddygaeth niwclear’ a ‘sgan’ swnio’n frawychus beth bynnag fo’ch oedran – ond mae hyn yn arbennig o wir yn achos plant.

Mae tîm Meddygaeth Niwclear Ysbyty Llwynhelyg wedi creu fideo i blant, sy’n gwneud y profiad yn llawer llai brawychus.

Mae’r gwasanaeth yn gofalu am blant rhwng tri mis a 18 oed o bob rhan o ardal Hywel Dda, gan wasanaethu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Gall sganiau meddygaeth niwclear helpu’r meddygon i edrych ar eich arennau, eich coluddyn neu’ch esgyrn. Mae’n defnyddio ymbelydredd gama sydd fel meddygaeth arbennig. Yna gall y camera gama dynnu lluniau o ble rydych chi wedi cael y feddyginiaeth. Mae’r sgan yn cymryd tua 30 munud.

Helpodd Rachael Cunliffe, Technolegydd Clinigol, i greu stori Walter y Pengwin, sy’n cael ei hadrodd trwy fideo. Meddai: “Cafodd y fideo ei greu’n bennaf ar gyfer plant rhwng dwy a chwe blwydd oed gan i ni weld mai dyma’r oedran sy’n gallu bod yn anoddaf iddyn nhw ddeall beth sy’n digwydd iddyn nhw.”

Roedd y tîm yn cydnabod bod cyfle i greu rhywbeth y gallai plant ei wylio cyn dod i’w sgan i helpu i ddeall y broses.

Bu staff radioleg yn gweithio gydag arbenigwyr chwarae o Ysbyty Glangwili, pediatregydd o Gaerdydd, Tîm yr Iaith Gymraeg, a’r Tîm Cyfathrebu Digidol i greu’r stori a’r fideo.

Parhaodd Rachael: “Mae’r fideo yn dangos antur Walter i lawr i ysbyty Llwynhelyg i gael sgan. Mae Walter yn nerfus ond mae’n dawel ei feddwl yn gyflym pan gaiff groeso cynnes gan y staff, pan fydd yn gweld y peiriant, ac yn siarad am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd iddo.”

Enillodd y fideo yn ddiweddar yng nghategori Tîm Arloesol y Flwyddyn yng ngwobrau Cymdeithas Meddygaeth Niwclear Prydain (BNMS).

Dywedodd Rachel: “Roedd y gwobrau yn brofiad gwych iawn. Rwy’n falch iawn o’r hyn y mae ein tîm wedi’i gyflawni. Roedd yn wych gallu dangos yr hyn rydym wedi’i greu fel tîm ac ysbrydoli adrannau eraill nid yn unig ledled y DU ond hefyd o Ewrop. Mae gallu helpu plant drwy’r hyn a all fel arfer yn gyfnod llawn straen wedi bod yn hynod werth chweil. Rwy’n hapus bod ein fideo wedi ein helpu i gyflawni hyn.”

Dywedodd James Severs, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd “Llongyfarchiadau i’n timau sy’n ymwneud â’r prosiect hwn, rydym mor falch o’r cydweithio a’r cyflawniad. Mae’n bwysig i ni fod cleifion ifanc yn teimlo’n ddiogel ac yn gartrefol pan fyddant yn ein gofal ac rydym wrth ein bodd bod Walter y Pengwin yno i helpu.”

I ddarllen mwy am feddyginiaethau niwclear ac i wylio Antur Walter, cliciwch yma i ymweld â’r tudalen feddygyniaeth niwclear (agor mewn dolen newydd)


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.