15 C
Llanelli
Wednesday, June 17, 2026
Home Education Coleg Cambria Mae diwrnod hwyl i’r teulu am ddim yn dathlu’r cerbydau modur a’r...

Mae diwrnod hwyl i’r teulu am ddim yn dathlu’r cerbydau modur a’r gerddoriaeth gorau yn dychwelyd i Wrecsam yr haf yma.

0
551
BershamWheels3
BershamWheels3

Bydd digwyddiad poblogaidd Olwynion Ffordd y Bers yn cael ei gynnal ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria o 10am-3pm ddydd Sadwrn 29 Mehefin.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys adloniant, arddangosfeydd, stondinau masnach, bwyd a lluniaeth a chasgliad o gerbydau anhygoel – o geir clasurol a beics, peiriannau pwerus i beiriannau milwrolmae’r digwyddiad yma yn werth ei weld.

Gallai ymwelwyr fwynhau teithiau tywys o amgylch safle’r coleg, sy’n cynnwys y Sefydliad Technoleg sydd werth £10 miliwn, a cherddoriaeth gan rai o fandiau gorau’r rhanbarth.

Bersham Wheels

Mae Karl Jackson, Arweinydd y Safle a Phennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg, yn gobeithio gweld llwythi o bobl yno ar y diwrnod.

“Bob blwyddyn mae Olwynion Ffordd y Bers yn dod yn fwy ag yn well, ac mae’r haf yma mae’n edrych fel mai fel yna fydd hi eto,” meddai.

Mae’r digwyddiad yn canolbwyntio ar geir, beiciau modur, a rhoi tân arni, ond mae hefyd wedi dod yn boblogaidd yn yr ardal leol, gan ddod â’r gymuned at ei gilydd i ddathlu gyda cherddoriaeth, bwyd a lluniaeth bendigedig.

Bersham Wheels

“Ac mae’n rhad ac am ddim, felly rydyn ni’n gobeithio gweld mwy o bobl yma nag erioed.”

Ychwanegodd Karl: “Dyma’r pedwerydd digwyddiad, ac mae gennym ni fwy o geir, stondinau, a cherddoriaeth a dewis eang o gerbydau deniadol, felly mae yna rywbeth at ddant pawbcroesi bysedd am ychydig o heulwen!”

Mae parcio am ddim ar y safle. I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle ar gyfer stondin yn nigwyddiad Olwynion Ffordd y Bers, anfonwch e-bost at karl.jackson@cambria.ac.uk neu ffoniwch 01978 267809.

Bersham Wheels

I gofrestru am eich tocyn am ddim, ewch i Digwyddiad Olwynion Ffordd y Bers yng Ngholeg Cambria.

Ewch www.cambria.ac.uk i ddarganfod rhagor am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here