22.3 C
Llanelli
Wednesday, July 15, 2026
Home Mid and West Wales Fire and Rescue Service Penodi arbenigwr i gynnal adolygiad diwylliannol annibynnol

Penodi arbenigwr i gynnal adolygiad diwylliannol annibynnol

0
410
VgPuajfKUzOUKjdKxDTxh9SUMYgWgod0Bd7Phjjj
VgPuajfKUzOUKjdKxDTxh9SUMYgWgod0Bd7Phjjj

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru wedi mynd ati ar y cyd i benodi Crest Advisory i hwyluso adolygiad diwylliannol annibynnol.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn, ym mis Mawrth, gynnig gan y gwasanaethau tân ac achub i adolygu’r modd y maen nhw’n symud ymlaen ar eu teithiau diwylliannol – a hynny’n sail i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y pryd, Hannah Blythyn AS.

Mae’r ddau wasanaeth tân ac achub yn cydnabod pwysigrwydd meithrin amgylchedd cadarnhaol a chefnogol yn y gweithle, a’r angen am sicrwydd cyhoeddus yn hyn o beth.

Bydd Crest Advisory, arbenigwyr mewn safonau, perfformiad a diwylliant sefydliadol, yn dechrau’r gwaith hwn ym mis Gorffennaf, gan ddilyn cylch gorchwyl sy’n seiliedig ar ddatganiad y Dirprwy Weinidog. Bydd yr adolygiad yn cyhoeddi adroddiad terfynol, gan wneud asesiad o gynnydd diwylliant yn y gweithle a nodi cyfleoedd i wella.

Dywedodd Prif Swyddog Tân Gogledd Cymru, Dawn Docx: “Fe wnaethom ddechrau ar daith ddiwylliannol yn 2021 gydag Arolwg Staff Teulu Tân cynhwysfawr wedi’i gomisiynu gan gwmni annibynnol, a chyda cynlluniau gweithredu dygn a diweddariadau cynnydd rheolaidd wedi hynny. Mae’r Gwasanaeth wedi gweld newidiadau cadarnhaol ers hynny, ac mae’r gwaith hwn yn parhau yn dilyn ein harolwg staff diweddaraf a gynhaliwyd yn hydref 2023.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch a lles ein cymunedau a’n gweithlu ac yn cydnabod pwysigrwydd sicrwydd allanol, craffu a herio yn ein cynnydd parhaus ar ein taith ddiwylliannol.

“Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno unrhyw argymhellion sy’n deillio o’r adolygiad diwylliannol mewn modd tryloyw, cynhwysol ac effeithiol.”

Dywedodd Prif Swyddog Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Roger Thomas: “Rydym hefyd wedi cynnal archwiliad diwylliannol cadarn trwy gwmni allanol, ac o ganlyniad, trwy ffurfio Bwrdd a Gweithgor Diwylliant a Chynhwysiant, mae cynllun gweithredu i wneud gwelliannau eang ar y gweill, proses sydd wedi’i chroesawu gan Lywodraeth Cymru.

“Rydym yn deall yr angen am ddilysu a mewnbwn allanol i sicrhau ein bod yn parhau i fod ar y trywydd cywir.

“Yn unol â’n hymrwymiad i welliant parhaus, mae’r naill a’r llall ohonom yn anelu at wella ein diwylliant a’n gweithrediadau sefydliadol er budd ein cymunedau a’n staff ac edrychwn ymlaen at yr effaith gadarnhaol y bydd yr ymdrechion hyn yn ei chael ar ein sefydliadau.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Julie James: “Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel yn eu gweithle ac rwy’n croesawu’r adolygiadau diwylliannol annibynnol hyn a fydd yn helpu i roi sicrwydd pwysig am ddiwylliant y gweithle a lles staff yng Ngwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru. Byddwn yn ystyried canfyddiadau’r adroddiadau’n ofalus.”

Bydd yr adolygiad yn ceisio ymgysylltu’n agored ac yn llawn ag aelodau presennol a chyn-aelodau o Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd Crest Advisory yn casglu barn a phrofiadau gan staff presennol a chyn-aelodau staff drwy gynnal arolwg, cyfweliadau un-i-un a grwpiau ffocws ar draws y gwasanaethau tân ac achub.

Bydd gwybodaeth bellach am sut i gymryd rhan yng ngwaith y tîm adolygu ar gael cyn bo hir.

Y bwriad yw y bydd yr adroddiad terfynol, ynghyd ag unrhyw feysydd i’w gwella a nodwyd, yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2025 a’i gyflwyno i’r ddau Awdurdod Tân ac Achub a Llywodraeth Cymru, fel tystiolaeth bellach o sicrwydd annibynnol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.