15.9 C
Llanelli
Wednesday, March 18, 2026
Home Events Mae S4C a Sioe Frenhinol Cymru yn cydweithio i goffau un o...

Mae S4C a Sioe Frenhinol Cymru yn cydweithio i goffau un o ddarlledwyr blaengar Cymru

0
596
b7d22d56 67fd d169 1e48 9a2ca3cb05a7
b7d22d56 67fd d169 1e48 9a2ca3cb05a7

Heddiw (Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf) fe fydd adeilad S4C ar safle’r Sioe yn LLanelwedd yn derbyn enw newydd – Corlan Dai Llanilar – mewn teyrnged i’r diweddar Dai Jones, fu’n wyneb cyfarwydd ar y sianel am flynyddoedd.

Bydd llechen yn cael ei ddadorchuddio ar furiau adeilad S4C am 10.45 a derbyniad coffa i ddilyn am 11.00.

Yn y derbyniad bydd gwasg Y Lolfa’n lansio cyfrol Cofio Dai, casgliad o ysgrifau wedi’u llunio gan y bobl oedd yn ei adnabod orau ym mhob rhan o’i fywyd. Roedd golygydd y gyfrol, Beti Griffiths, yn ffrind agos i Dai a’i weddw, Olwen.

Bu farw Dai Jones, oedd hefyd yn ffermwr ac yn ganwr talentog yn 78 oed ym mis Mawrth 2022.

Bu’n cyflwyno sawl rhaglen adnabyddus ar y radio a theledu, ond mae’n cael ei gofio’n bennaf fel cyflwynydd y gyfres Cefn Gwlad.

Mae’r llechen, sy’n cyfeirio at Dai fel y ‘Ffarmwr, Darlledwr, Gwladgarwr’, yn cael ei chyflwyno gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a hynny ym mlwyddyn Sir Nawdd Ceredigion, ac yn cynnwys englyn gan y bardd Tudur Dylan Jones:

Dai

Dai’r ardal hyd y dalar, – Dai â’i lais

Hyd y wlad, Dai’r cymar,

Dai frenin ei werin wâr.

Llawn o hwyl yw Llanilar.

Meddai Sioned Wiliam, Prif Weithredwr Dros Dro S4C:

“Mae’r penderfyniad i alw adeilad S4C ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Corlan Dai Llanilar wedi bod yn un rhwydd a naturiol iawn i’w gwneud.

“Roedd Dai Jones yn un o hoelion wyth y byd darlledu Cymraeg, a’i afiaith dros y Gymraeg, darlledu Cymraeg ac hefyd dros gefn gwlad Cymru yn heintus.

“Rydym yn falch iawn fel S4C ein bod yn gallu coffau’r gŵr arbennig ac unigryw hwn mewn ffordd arbennig. Bydd y cenedlaethau i ddod hefyd yn gallu dysgu am Dai a chael eu hysbrydoli ganddo.”

Meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Sioe Frenhinol Cymru:

“Byddai Dai yn dweud yn aml, y fraint fwyaf a ddaeth i’w rhan oedd cael ei ethol yn Llywydd y Gymdeithas. Ac eleni, mae’n fraint i ni ddadorchuddio cofeb barhaol am un o fawrion y genedl. Roedd y Sioe yn golygu lot i Dai ac rydym yn cofio gyda gwen ar ein hwynebau am un o gewri cefn gwlad Cymru yr wythnos hon.”

Gwybodaeth Gyswllt

Heledd Williams
heledd.williams@s4c.cymru


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.