7.6 C
Llanelli
Tuesday, October 20, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Mae Cynghrair Cyfeillion Bronglais yn cyfrannu £17,400 tuag at bwll geni a...

Mae Cynghrair Cyfeillion Bronglais yn cyfrannu £17,400 tuag at bwll geni a sesiynau canu

0
43
2 1
2 1

Mae Cynghrair Cyfeillion Bronglais wedi rhoi £17,400 i ddau wasanaeth yn Ysbyty Bronglais.

Mae £13,400 wedi ei gyfrannu tuag at y gost o osod pwll geni sefydlog yn ward famolaeth Gwenllian. Bydd y pwll yn creu amgylchedd ymlaciol a lleddfol ac yn hyrwyddo profiadau geni cadarnhaol i rieni.

Mae £4,000 pellach wedi’i roi i ward iechyd meddwl oedolion hŷn Enlli tuag at sesiynau canu a symud rhyngweithiol. Bydd y sesiynau yn lleihau unigrwydd, diflastod ac arwahanrwydd i gleifion yn ogystal â hybu ysgogiad gwybyddol a lles.

Yn y llun ar y chwith, o’r chwith i’r dde: Paige Denyer, Elusennau Iechyd Hywel Dda; Cerian Llewellyn, Bydwraig Risg a Llywodraethu; Emma Booth, Operational and Clinical Lead Midwife for Bronglais Hospital; Rhian Davies ac Elinor Powell, Cynghrair Cyfeillion Bronglais

Mae Cynghrair Cyfeillion Bronglais yn elusen sydd wedi ymrwymo i godi arian i gefnogi Ysbyty Bronglais a gwasanaethau iechyd cymunedol lleol.

Dywedodd Elinor Powell, Cadeirydd Cynghrair Cyfeillion Bronglais: “Rydym wrth ein bodd yn gallu cyfrannu at yr achosion gwych hyn. Mae’n hyfryd i ni wneud rhoddion sy’n dod â llawenydd i fywydau pobl, yn bennaf oll na genedigaeth a chanu.

“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’n haelodau Cynghrair Cyfeillion Bronglais a phawb sydd wedi rhoi yn ddiweddar. Rhaid diolch yn arbennig i gynulleidfa Canu Nadolig Sgarmes yn y Neuadd Fawr fis Rhagfyr diwethaf a gododd bron i £10,000 trwy werthu tocynnau, raffl a rhoddion ar y noson. Mae tocynnau eisoes ar werth ar gyfer digwyddiad Canu mis Rhagfyr eleni ac fel bob amser, bydd pob ceiniog a godir yn mynd i Cynghrair Cyfeillion Bronglais.”

Dywedodd Dawn Jones, Pennaeth Nyrsio’r Ysbyty: “Rydym am ddiolch yn ddiffuant i Gynghrair Cyfeillion Bronglais am eu rhoddion hael ac am eu cefnogaeth barhaus i gleifion a staff.

“Bydd y rhoddion hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiad teuluoedd sy’n dod â bywyd newydd i’r byd, ac i rai o’n cleifion hynaf ac eiddil a all elwa ar lawenydd cerddoriaeth a symudiad.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.