8.5 C
Llanelli
Saturday, February 28, 2026
Home hywel dda health board Hywel Dda yn buddsoddi mewn gwneud i staff meddygol deimlo’n gartrefo

Hywel Dda yn buddsoddi mewn gwneud i staff meddygol deimlo’n gartrefo

0
335
9f18cf2d4e44e4a4 org scaled
9f18cf2d4e44e4a4 org scaled

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi buddsoddi £600,000 i wella llety ar gyfer meddygon dan hyfforddiant yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd er mwyn creu lle cynnes a chroesawgar iddynt ddod adref iddo ar ôl shifft hir.

Nid meddygon dan hyfforddiant yn Llwynhelyg fydd yr unig rai a fydd yn elwa o’r gwaith adnewyddu, gyda chynlluniau i wella llety ar gyfer meddygon dan hyfforddiant ar draws holl safleoedd Hywel Dda dros y blynyddoedd i ddod.

Mae gwaith gwella bron wedi’i gwblhau yn Ysbyty Glangwili ac mae llety meddygon dan hyfforddiant – sy’n cynnwys 12 ystafell wely dros ddau lawr – eisoes wedi cael eu hailwampio. Gosodwyd lloriau newydd y llynedd yn ysbyty Caerfyrddin, ac eleni mae’r tu mewn wedi’i beintio a dodrefn newydd wedi’u gosod.

Bedroom at Glangwili

Mae gwaith adnewyddu paentio eisoes wedi dechrau yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ac mae cynlluniau i wneud gwelliannau pellach yn Ysbyty Tywysog Philip ac Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Mae’r cynlluniau gwella wedi dod i fodolaeth yn dilyn adolygiad ar raddfa fawr o lety meddygon dan hyfforddiant gan y bwrdd iechyd, a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf a Medi 2023.

Mesurwyd y llety presennol yn erbyn safonau llety a chyfleusterau Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain.

Dywedodd Helen Thomas, Pennaeth Addysg Feddygol a Safonau Proffesiynol yn Hywel Dda: “Amlygodd yr adolygiad rai meysydd yr oedd angen eu gwella. Roedd hyn yn arbennig o wir yn Llwynhelyg, lle mae meddygon dan hyfforddiant yn dibynnu’n helaeth ar lety ar y safle, oherwydd ei fod yn gyfleus ac yn agos at yr ysbyty a hefyd oherwydd y diffyg eiddo sydd ar gael i’w rhentu yn yr ardal.

“Rydym yn gobeithio y bydd ein hymrwymiad i wella gofod byw ar gyfer meddygon dan hyfforddiant yn dangos ein bod yn gwerthfawrogi ein staff meddygol a fydd yn ein helpu i recriwtio a chadw meddygon. Bydd hyn, yn ei dro, yn ein helpu i wella’r gwasanaethau a ddarparwn i’n cleifion.”

Bedroom at Withybush

Bydd y gwaith gwella yn digwydd mewn dau gam.

Mae Cam 1, a ddechreuodd ym mis Ebrill eleni, wedi hen ddechrau a bydd yn parhau tan fis Mawrth 2025.

Mae wyth fflat ym mloc Penfro, sy’n cynnwys 32 ystafell wely, ynghyd â’r ystafell hamdden gymunedol a’r coridorau eisoes wedi’u hailbeintio a rhoddwyd lloriau a dodrefn newydd iddynt.

Erbyn Gwanwyn 2025, disgwylir y bydd wyth ystafell gawod yn cael eu creu o’r ystafelloedd ymolchi presennol gydag ystafelloedd cawod newydd i’w gosod ym mhob fflat, yn ogystal â’r ystafell gawod a thoiled cymunedol, sydd wedi’u lleoli ar y llawr gwaelod.

Bydd cegin newydd wedi’i ffitio’n llawn yn cael ei gosod yn yr ardal gymunedol, gyda phaentio, lloriau newydd a nwyddau gwyn newydd.

Aeth Helen ymlaen: “Bydd ystafelloedd gwely sy’n rhan o’r llety ar safleoedd eraill hefyd yn cael eu hadnewyddu a byddant yn cael eu peintio ar thema debyg i’r un yn llety Llwynhelyg er mwyn helpu i sicrhau bod safonau llety yn dechrau cyfateb ar bob safle.”

Bydd ail gam y gwaith adnewyddu yn Llwynhelyg yn dechrau ym mis Ebrill 2025 ac yn parhau tan fis Mawrth 2026. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys rhaglen adnewyddu debyg ar gyfer un arall o’r blociau o fflatiau.

Bydd gwaith pellach yn cael ei nodi yn ôl blaenoriaeth a bydd hyn yn cael ei gadarnhau dros y misoedd nesaf.

Communal area at Withybush

Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro yn Hywel Dda:

“Rydym yn gweithio’n galed i wella mannau byw ar gyfer meddygon dan hyfforddiant, y mae llawer ohonynt wedi symud ymhell o’u cartrefi a’u teuluoedd eu hunain i weithio i ni.

“Mae’n bwysig i ni fod gan ein meddygon dan hyfforddiant le cyfforddus a chroesawgar i ddod adref iddo a all gynnig rhywfaint o heddwch a phreifatrwydd iddynt tra byddant yn gorffwys ac yn astudio.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.