Mis Ewyllysiau Am Ddim 2024

0
82
Katie Hancock.

Mae elusen GIG yn cynnig cyfleoedd i wneud ewyllys am ddim – a gadael diolch am byth

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi partneru â Farewill i gynnig cyfle i gefnogwyr ysgrifennu ewyllys am ddim yn ystod mis Hydref 2024.

Mae mis ysgrifennu ewyllys yn gyfle perffaith i bobl nad oes ganddyn nhw ewyllys i ysgrifennu un, ac i’r rhai sydd ag ewyllys gyfredol i’w diweddaru. Gall y rhai sy’n cymryd rhan sicrhau bod y bobl y maent yn eu caru yn cael eu cofio yn eu hewyllys, ac, os dymunant, eu helusen GIG leol.

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Gellir ysgrifennu’r ewyllysiau ar-lein neu dros y ffôn o gysur eu cartref eu hunain gyda’r darparwr ewyllys dibynadwy, Farewill, a gall gymryd llai na 30 munud. Mae tîm o arbenigwyr ar gael saith diwrnod yr wythnos i’ch helpu i ysgrifennu ewyllys o gysur eich cartref eich hun.

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae hwn yn gyfle gwych a chyfleus i sicrhau bod dyfodol eich teulu’n ddiogel ac y bydd eich dymuniadau’n cael eu dilyn – a hefyd i gefnogi eich elusen GIG leol os ydych chi’n dewis gwneud hynny.

“Bydd hyd yn oed rhodd o 1% o’ch ystâd i’r elusen yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer, sy’n golygu y gallwch chi adael cymynrodd barhaol ar gyfer eich gwasanaethau GIG lleol.”

I gadw lle cliciwch yma, ffoniwch 01267 239815 neu ebostio Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here