7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Newyddion Lle Blwyddyn o helpu perchnogion tai i aros yn eu cartrefi

Blwyddyn o helpu perchnogion tai i aros yn eu cartrefi

0
424
PO 071124 CAB SEC 14 cropped scaled
PO 071124 CAB SEC 14 cropped scaled

Flwyddyn ers ei lansio, mae Cymorth i Aros Cymru wedi bod yn rhoi cymorth a chyngor amhrisiadwy i berchnogion tai ledled y wlad i’w helpu i aros yn eu cartrefi.

Mae Cymorth i Aros Cymru yn cynnig cymorth i’r rhai sy’n cael anhawster, neu’n wynebu anhawster o ran talu eu morgais presennol ac sydd mewn perygl o adfeddiannu a digartrefedd.

Cabinet Secretary for Housing and Local Government, Jayne Bryant, recently visited the home of Alice Brown, a Help to Stay loan recipient

Gallai perchnogion tai cymwys gael cynnig benthyciad ecwiti i ostwng eu had-daliadau i lefel fforddiadwy.

Mae’r cynllun yn cael ei weithredu gan Fanc Datblygu Cymru ac mae’n ddi-log am y pum mlynedd gyntaf.

Alice Brown, a Help to Stay loan recipient

Yn ddiweddar, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, ar ymweliad â chartref Alice Brown, sydd o Ben-y-bont ar Ogwr ac wedi derbyn benthyciad Cymorth i Aros.

Ar ôl i’w chytundeb morgais cyfradd sefydlog ddod i ben yr haf diwethaf, fe wnaeth taliadau morgais Alice ddyblu, bron.

Cabinet Secretary for Housing and Local Government, Jayne Bryant, recently visited the home of Alice Brown, a Help to Stay loan recipient

Meddai Alice: “Pan wnaeth fy nhaliadau morgais gynyddu, cynigiodd fy rhoddwr benthyciadau fy nhrosglwyddo i gynllun llog yn unig am chwe mis. Er bod hyn wedi helpu, dim ond datrysiad dros dro ydoedd.

“Doeddwn i ddim mewn dyled, felly doedd yr unig gyngor ariannol roeddwn i’n ei gael ddim yn ddefnyddiol iawn, a’r unig beth allwn i ei wneud oedd lleihau fy nhaliadau morgais.

Cabinet Secretary for Housing and Local Government, Jayne Bryant, recently visited the home of Alice Brown, a Help to Stay loan recipient

“Roeddwn i wedi clywed am y cynllun ar ôl iddo gael ei lansio’r llynedd a phenderfynais wneud cais i weld a oeddwn yn gymwys i gael y benthyciad ecwiti. Diolch i’r drefn, fe oeddwn i’n gymwys, a llwyddais i leihau fy nhaliadau misol, a oedd yn rhyddhad enfawr.”

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: “Gyda chynnydd mewn costau byw,  mae methu â thalu ad-daliadau morgais yn realiti sy’n bryder gwirioneddol i lawer o berchnogion tai yng Nghymru.

Cabinet Secretary for Housing and Local Government, Jayne Bryant, recently visited the home of Alice Brown, a Help to Stay loan recipient

“Mae ein cynllun Cymorth i Aros Cymru yn cynnig amser i berchnogion tai ddatrys eu sefyllfaoedd ariannol ac yn bwysicaf oll, mae’n eu helpu i aros yn eu cartrefi gwerthfawr.

Alice Brown, a Help to Stay loan recipient

“Roedd hi’n hyfryd cwrdd ag Alice ac rwy’n ddiolchgar iawn iddi am rannu ei stori gyda mi.

“Rydyn ni eisiau helpu mwy o bobl cyn iddyn nhw wynebu’r bygythiad ofnadwy o adfeddiannu a byddwn yn annog unrhyw un sy’n poeni am allu fforddio eu taliadau morgais i wirio a ydyn nhw’n gymwys am Gymorth i Aros.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.