Ymgyrch Anfonwch Anrheg yn rhoi Nadolig hudolus i blant sy’n derbyn gofal y GIG

0
138
Above: Tiara (left) and her sister enjoying some Christmas crafting thanks to the Wish Fund

Nod ymgyrch newydd yw cyflwyno eiliadau Nadolig hudolus i blant a phobl ifanc ledled gorllewin Cymru sy’n derbyn gofal y GIG.

Bydd Anfonwch Anrheg yn rhoi’r cyfle i roi rhoddion i gleifion a gefnogir gan y Gronfa Ddymuniadau, ymgyrch sy’n creu profiadau cofiadwy i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n bygwth bywyd. Bydd anrhegion hefyd yn cael eu rhoi i gleifion ifanc eraill sydd yn yr ysbyty y Nadolig hwn neu’n derbyn gofal parhaus.

Mae yna nifer o ffyrdd i gefnogi’r ymgyrch. Gall cefnogwyr:

  • Cymerwch dag anrheg Cronfa Ddymuniadau o goeden Nadolig Dunelm Caerfyrddin a phrynu yr anrheg a ddisgrifir ar y tag
  • Cymeryd rhan yn Niwrnod Siwmper Nadolig ddydd Iau 12 Rhagfyr a rhoi £3 trwy decstio WISH FUND 3 i 70085 neu drwy fynd i’r dudalen cystadleuaeth Siwmper Nadolig

Mae’r Gronfa Ddymuniadau yn cael ei darparu gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’i chefnogi gan Rygbi’r Scarlets.

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian: “Rydym yn gofyn i’n cymunedau lleol ein helpu i wneud y Nadolig hwn mor hudolus â phosibl i’n cleifion ifanc.

“Mae Anfonwch Anrheg yn gyfle perffaith i brynu rhywbeth arbennig ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal a thriniaeth – a gwneud eu Nadolig!”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle