9.7 C
Llanelli
Thursday, February 26, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Côr yn codi dros £2,000 i uned cemo Glangwili

Côr yn codi dros £2,000 i uned cemo Glangwili

0
803
Cor Seingar 3 scaled
Cor Seingar 3 scaled

Côr Seingar yn codi £2,200 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili er cof am aelod o’r côr, Sian Axford.

Côr cymysg wedi ei leoli yng Nghaerfyrddin yw Côr Seingar. Sefydlwyd y côr yn 2004 ac yn ddiweddar trefnodd gyngerdd elusennol i ddathlu eu pen-blwydd yn 20 oed.

Cododd y côr arian i’r Uned Ddydd Cemotherapi gan fod aelod o’r côr, Siân Axford, yn drist iawn wedi colli ei brwydr gyda chanser y fron yn 2021.

Dywedodd Nicki Roderick, Cyfarwyddwr Cerdd Côr Seingar: “Cynhaliwyd ein cyngerdd yn Neuadd San Pedr yng Nghaerfyrddin ar 20fed Ebrill 2024. Artistiaid gwadd oedd y tenor a’r canwr opera Robyn Lyn Evans, y Pibydd Gwyddelig Christy McCarthy a disgyblion Ysgol y Dderwen.

“Hefyd lansiodd y côr gryno ddisg newydd, ‘Eilia2’, yn cynnwys 12 o draciau poblogaidd ac adnabyddus a recordiwyd yn Sonic One Studio yn Llangennech.

“Trefnwyd y cyngerdd er cof am aelod o’r côr, Siân Axford, a gollodd ei brwydr gyda chanser y fron. Roedd Siân yn aelod brwdfrydig a phoblogaidd o adran soprano y côr ac mae colled fawr ar ei hôl.

“Roedd y cyngerdd  yn llwyddiant ysgubol a gwerthwyd pob tocyn. Mwynhaodd aelodau’r côr yr her o gydweithio i drefnu a sicrhau rhediad esmwyth y noson. Hoffem ddiolch i’r artistiaid dawnus a gefnogodd y côr yn y cyngerdd, haelioni busnesau lleol am eu nawdd caredig a’u rhoddion, y cyngor tref am ddefnydd o’r neuadd, y gwirfoddolwyr a gefnogodd y noson, a’r gynulleidfa werthfawrogol, llawer ohonynt yn gefnogwyr brwd i Seingar.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Diolch i Gôr Seingar am godi swm mor anhygoel i’r Uned Ddydd Cemotherapi yng Nglangwili, mae’n deyrnged fendigedig i Siân.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i:www.hywelddahealthcharities.org.uk

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.