C么r Seingar yn codi 拢2,200 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili er cof am aelod o’r c么r, Sian Axford.
C么r cymysg wedi ei leoli yng Nghaerfyrddin yw C么r Seingar. Sefydlwyd y c么r yn 2004 ac yn ddiweddar trefnodd gyngerdd elusennol i ddathlu eu pen-blwydd yn 20 oed.
Cododd y c么r arian i’r Uned Ddydd Cemotherapi gan fod aelod o’r c么r, Si芒n Axford, yn drist iawn wedi colli ei brwydr gyda chanser y fron yn 2021.
Dywedodd Nicki Roderick, Cyfarwyddwr Cerdd C么r Seingar: “Cynhaliwyd ein cyngerdd yn Neuadd San Pedr yng Nghaerfyrddin ar 20fed Ebrill 2024. Artistiaid gwadd oedd y tenor a’r canwr opera Robyn Lyn Evans, y Pibydd Gwyddelig Christy McCarthy a disgyblion Ysgol y Dderwen.
“Hefyd lansiodd y c么r gryno ddisg newydd, ‘Eilia2’, yn cynnwys 12 o draciau poblogaidd ac adnabyddus a recordiwyd yn Sonic One Studio yn Llangennech.
“Trefnwyd y cyngerdd er cof am aelod o’r c么r, Si芒n Axford, a gollodd ei brwydr gyda chanser y fron. Roedd Si芒n yn aelod brwdfrydig a phoblogaidd o adran soprano y c么r ac mae colled fawr ar ei h么l.
“Roedd y cyngerdd聽 yn llwyddiant ysgubol a gwerthwyd pob tocyn. Mwynhaodd aelodau’r c么r yr her o gydweithio i drefnu a sicrhau rhediad esmwyth y noson. Hoffem ddiolch i’r artistiaid dawnus a gefnogodd y c么r yn y cyngerdd, haelioni busnesau lleol am eu nawdd caredig a’u rhoddion, y cyngor tref am ddefnydd o’r neuadd, y gwirfoddolwyr a gefnogodd y noson, a’r gynulleidfa werthfawrogol, llawer ohonynt yn gefnogwyr brwd i Seingar.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Diolch i G么r Seingar am godi swm mor anhygoel i’r Uned Ddydd Cemotherapi yng Nglangwili, mae’n deyrnged fendigedig i Si芒n.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i:www.hywelddahealthcharities.org.uk
聽

Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |