Gostyngiad brawychus mewn prentisiaethau’n dwysáu’r argyfwng ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

0
362
Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW.

Yn ôl darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr mae’r gostyngiad sydyn mewn prentisiaethau’n gwaethygu argyfwng gweithlu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ar ôl i Lywodraeth Cymru wneud toriadau digynsail i’w cyllid eleni.

Mae data a ryddhawyd gan Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru, am y cyfnod Chwefror–Ebrill eleni yn dangos gostyngiad o 445 (34%) yn nifer y dysgwyr a ddechreuodd ddilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.  Bu gostyngiad o 160 (27%) yn nifer y rhai a ddechreuodd ar Brentisiaeth.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), sy’n cynrychioli darparwyr hyfforddiant, wedi galw am wrthdroi’r toriadau o 14% yng nghyllid prentisiaethau.

Daw’r newyddion digalon i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn dynn ar sodlau’r adroddiad damniol a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf am effaith y toriad yng nghyllid prentisiaethau.

Cafodd adroddiad y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes (Cebr), ‘Effaith Toriadau Cyllid Prentisiaethau yng Nghymru’, ei gomisiynu ar y cyd gan yr NTFW a ColegauCymru, y mae eu haelodau’n gyfrifol am gyflwyno dysgu seiliedig ar waith ledled y wlad.

Mae’r adroddiad yn rhagweld y bydd bron 6,000 yn llai o bobl yn dechrau ar brentisiaethau yng Nghymru eleni, gyda cholled tymor byr cysylltiedig o £50.3 miliwn i’r economi, wedi’i fesur mewn Gwerth Ychwanegol Crynswth. 

Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith mai’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag unigolion o ardaloedd difreintiedig, fydd yn dioddef waethaf oherwydd y toriadau hyn.

Mae ôl-effeithiau’r dirywiad hwn i’w teimlo ledled Cymru.  Hyd yn oed cyn y toriadau ariannol, roedd Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi rhybuddio:  “Mae argyfwng y gweithlu gofal cymdeithasol a diffyg capasiti’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn dal yn un o brif achosion yr oedi cyn rhyddhau pobl o’r ysbyty. 

Sarah Clifford o Barchester Healthcare.

Roedd Cynllun Cyflawni’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru wedi tanlinellu pwysigrwydd sgiliau a hyfforddiant, gan addo cynyddu nifer y bobl oedd yn gwneud prentisiaethau yn y sector.

Fodd bynnag, mae’r data diweddaraf hyn yn awgrymu bod y gwrthwyneb yn digwydd, gan beryglu’r ymdrechion i fynd i’r afael â phrinder difrifol o weithwyr.

Yn ei sesiwn friffio ar gyfer Ymchwiliad Pwyllgor y Senedd, pwysleisiodd Conffederasiwn y GIG: “Mae gan ofal cymdeithasol ran hanfodol i’w chwarae mewn llwybrau gofal drwy sicrhau y gellir rhyddhau cleifion o’r ysbyty’n gynt ac yn fwy diogel a chadw pobl yn iach am fwy o amser heb fynd i’r ysbyty.

Dywedodd cyfarwyddwr strategol yr NTFW Lisa Mytton: “Os yw cynyddu Prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hanfodol er mwyn lliniaru’r argyfwng, yna mae’n rhaid bod y gostyngiad serth presennol yn nifer y dysgwyr yn seinio clychau rhybudd yn Llywodraeth Cymru.

“Heb weithredu ar unwaith i wrthdroi’r duedd hon, mae perygl i Gymru waethygu’r argyfwng presennol, gan effeithio’n ddifrifol ar gleifion, teuluoedd a’r economi. 

Mae Innovate Trust, sefydliad elusennol sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i fyw’n annibynnol yn y gymuned, wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau am swyddi eleni.

“Rydym yn cyflogi dros 950 o weithwyr, a bydd disgwyl i’r mwyafrif ohonynt weithio tuag at Brentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol,” meddai Sue Hatch, swyddog hyfforddi a datblygu.  “Heb y cymhwyster hwn mae mwy o risg i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

“Mae cyllid prentisiaethau’n hollbwysig i ni fel elusen er mwyn sicrhau bod ein gweithwyr wedi cymhwyso’n llawn ac wedi’u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.  Mae toriadau cyllid wedi amharu ar ein gwaith a’n gweithwyr gan ein bod yn dibynnu ar gefnogaeth i ddarparu cymwysterau er mwyn cynnal sgiliau ein gweithlu.

Dywedodd Sarah Clifford, pennaeth prentisiaethau a systemau dysgu digidol gyda Barchester Healthcare: “O ganlyniad i’r toriadau i gyllid prentisiaethau a’r gostyngiad yn nifer y darparwyr hyfforddiant cymeradwy yng Nghymru, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y staff asesu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny’n creu problemau capasiti ac yn effeithio ar gynnydd ein dysgwyr.”

Mae’r Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer cyflwyno dysgwyr i’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn ymuno â’r sector a chael eu cofrestru gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae cofrestru’n sicrhau mai dim ond unigolion cymwysedig a chymwys sy’n cael darparu gofal a chymorth hanfodol mewn rolau sy’n gofyn am ardystiad, gan ddiogelu lles y cyhoedd.

Mae llwybr y Brentisiaeth (Lefel 3) yn arwain at rolau uwch, fel uwch-weithiwr gofal cymdeithasol neu uwch-weithiwr cymorth.  Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r sgiliau a’r galluoedd hanfodol i ddysgwyr ar gyfer gweithio’n effeithiol a symud ymlaen yn eu gyrfa yn y sector.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle