L-R: Malcolm Thomas, Janet Phillips, Mansel Raymond
CYWIRIAD – Ym mhellach i’r datganiad a chafodd ei ddanfon allan ddoe, mae yna gamgymeriad o fewn swyddi blaenorol Mr Raymond. Fe ddylai ddarllen “Llywydd Bwrdd Llaeth Copa Cogeca, gyn-Gyfarwyddwr First Milk, Cadeirydd Llaeth Ewrop a Chadeirydd Bwrdd Llaeth yr NFU”.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster ag achoswyd
Ffermwr o Sir Benfro Mansel Raymond wedi’i Ethol yn Gadeirydd CARAS Cymru
Mae Mansel Raymond MBE FRAgS, ffermwr o Sir Benfro, wedi’i ethol yn Gadeirydd Newydd CARAS Cymru, y Cyngor Gwobrwyo Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol, yn dilyn ei etholiad unfrydol gan Gyngor CARAS Cymru ym mis Ionawr. Bydd yn gwasanaethu am dymor o ddwy flynedd, gan olynu Janet Phillips FRAgs, a gamodd i lawr ar ôl cyfnod nodedig fel Cadeirydd.
Mansel Raymond MBE FRAgS Chair of CARAS Cymru
Mae CARAS yn gorff gwobrwyo uchel ei barch sy’n cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i gynnydd amaethyddol a gwledig ledled y DU. Gyda phaneli cenedlaethol yn cynrychioli pob un o bedair gwlad y DU, mae CARAS Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth ddathlu ac anrhydeddu cyflawniadau unigolion ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru.
Mae Mansel Raymond, sy’n ffigwr uchel ei barch yn y gymuned amaethyddol, yn arwain partneriaeth deuluol yn Sir Benfro ochr yn ochr â’i frawd, eu gwragedd a’u meibion. Dros y blynyddoedd, mae wedi dal sawl swydd lefel uchel yn y diwydiant amaethyddol, gan gynnwys Llywydd Copa Cogeca, Cadeirydd Llaeth Ewrop, a Chadeirydd Bwrdd Llaeth yr NFU. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Sir Benfro i NFU Cymru ac fel cyn-Lywydd Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro.
Wrth ymateb i’w etholiad, dywedodd Mansel, “Mae’n anrhydedd enfawr cael y rôl o Gadeirydd CARAS Cymru. Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o sefydliad sy’n cydnabod yr unigolion rhagorol sy’n siapio ein diwydiant amaethyddol.”
Malcolm Thomas MBE FRAgS Vice-Chair CARAS Cymru
Ychwanegodd, “Hoffwn hefyd fynegi fy niolch i Janet Phillips am ei harweinyddiaeth esiamplar yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd. Mae ei chyfraniadau wedi bod yn amhrisiadwy, ac rwy’n gobeithio adeiladu ar y sylfaen gadarn y mae’n ei gadael ar ei hôl.”
Bydd Mansel yn cael ei gefnogi gan Malcolm Thomas MBE FRAgS, sydd wedi’i ethol yn Is-Gadeirydd newydd CARAS Cymru. Daw Malcolm, o Langynog yn Sir Gaerfyrddin, â chyfoeth o brofiad, ar ôl cael gyrfa hir a nodedig ym maes amaethyddiaeth. Mae’n gyn-Gyfarwyddwr NFU Cymru ac wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr i nifer o elusennau a sefydliadau trwy gydol ei yrfa.
Mae’r ddau, Mansel a Malcolm, yn ymrwymo i hyrwyddo uchelgais CARAS Cymru i gydnabod ac anrhydeddu cyflawniadau rhagorol ym maes amaethyddiaeth, bywyd gwledig, a’r economi wledig ehangach.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle
This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.AcceptPrivacy Policy