9.7 C
Llanelli
Thursday, February 26, 2026
Home Business Dynes fusnes YSBRYDOLEDIG yn helpu i drawsnewid canol trefi Cymru.

Dynes fusnes YSBRYDOLEDIG yn helpu i drawsnewid canol trefi Cymru.

0
443
SIVbangorcitycentre2 scaled
SIVbangorcitycentre2 scaled

A’r lle nesaf ar restr Medi Parry Williams, sef Sylfaenydd a Chyfarwyddwr MPW Making Places Work, yw Bangor, sydd eleni’n dathlu ei 1,500 o flynyddoedd. 

Dyfarnwyd Taleb Sgiliau ac Arloesedd i Medi gan Brifysgol Bangor ac mae’n gweithio mewn partneriaeth ag academyddion i greu presenoldeb ar-lein a fydd yn hybu arlwy manwerthu ac adloniant y stryd fawr. 

Ar y cyd â Dr Steffan Thomas, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata Busnes – a chyda chefnogaeth Cyngor Dinas Bangor – maent yn datblygu llwyfan rhithiol newydd ac yn archwilio ffyrdd o hyrwyddo siopau, caffis, bwytai a mwy ar-lein. 

Mae sawl siop newydd a bar chwaraeon wedi agor, neu ar fin agor, yng nghanol y ddinas, ac mae Medi – a ddewiswyd yn ddiweddar i gynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig gan yr Adran Busnes a Masnach ar daith fasnach i Cannes, Ffrainc – yn credu bod y dyfodol yn addawol.

“Rwyf wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau mewn trefi a dinasoedd ar draws y wlad – gan gynnwys Trefi Smart Cymru – ac yn cefnogi busnesau ar y stryd fawr i ddefnyddio mewnwelediadau sy’n cael eu gyrru gan ddata i wneud penderfyniadau busnes mwy gwybodus,” meddai Medi, sy’n wreiddiol o Ynys Môn. 

“Yn achos Bangor, mae’r dathliadau 1,500 yn gyfle gwych i arddangos y ddinas a rhoi hwb i’r stryd fawr, sydd wedi cael ei hadfywio yn y misoedd diwethaf. 

“Mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Cyngor Dinas Bangor, a rhanddeiliaid allweddol, byddwn yn hyrwyddo’r newyddion cadarnhaol hwnnw ac yn creu bwrlwm, gan gefnogi’r busnesau hyn gyda strategaethau, defnyddio technoleg i archwilio tueddiadau a nifer ymwelwyr, a chyfeirio pobl at yr hyn sydd ar gael yma.

“Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth ac adnoddau’r brifysgol trwy’r daleb sgiliau ac arloesedd, a gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i gydweithio i adeiladu llwyfan digidol y gall manwerthwyr cenedlaethol, busnesau a masnachwyr annibynnol elwa ohono am flynyddoedd i ddod.”

Adleisiodd Dr Thomas eiriau Medi, ac yn ei farn ef, bydd eu harbenigedd a’u hangerdd dros y rhanbarth yn golygu y bydd y flwyddyn hanesyddol hon hyd yn oed yn fwy arbennig.

“Mae’r berthynas yn parhau gyda ffocws ar y dathliadau 1,500, ond yn y tymor hir, byddwn wedi creu un pwynt cyfathrebu canolog da, sy’n dod â phawb ynghyd ag un weledigaeth glir, sef gyrru ymwelwyr a siopwyr i’r stryd fawr a hyrwyddo Bangor.”

Ychwanegodd Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinas Bangor: “Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yn y stryd fawr, mae’r ganolfan siopa wedi’i gwerthu, mae busnesau newydd yn ymddangos ac mae cynlluniau ar gyfer canolfan feddygol a chanolfan ddysgu newydd – rydym yn gweld adferiad ar y gweill.

“Gan fod hon yn flwyddyn mor nodedig, mae cyfres o ddigwyddiadau wedi’u trefnu, ac mae yna gynlluniau mawr ar y gweill. Ynghyd â’r gyda’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan Medi a’r brifysgol, rydym ar y trywydd iawn.”

Roedd y cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd yn cynnig cyfle i gwmnïau yng Ngwynedd, Ynys Môn, a Sir y Fflint gydweithio drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cefnogir y Cynllun gan Gyngor Gwynedd. Mae’r project wedi derbyn £360,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ac mae wedi’i ymestyn tan 31 Mawrth.  

SIV Bangor City Centre

Roedd tri math o daleb ar gael, y gellir eu hadbrynu mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil a datblygu, ymgynghoriaeth, sgiliau a hyfforddiant, defnyddio cyfleusterau prifysgol, defnyddio offer arbenigol, a mynediad at wybodaeth: Midi: Hyd at £5,000 am rhwng 5 ac 8 diwrnod o gefnogaeth; Maxi: Hyd at £10,000 am rhwng 10 a 15 diwrnod o gefnogaeth, a Talent, gyda gwerth hyd at £5,000 am interniaeth raddedig, 12 wythnos o hyd.

Dywedodd Nicola Sturrs, sef Rheolwr Datblygu Busnes y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd ym Mhrifysgol Bangor: “Roeddem yn falch iawn o ddyfarnu Taleb Sgiliau ac Arloesedd i MPW Making Places Work.

“Mae gan Dr Thomas gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ynghylch marchnata digidol, a bydd ei gefnogaeth yn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr â’r ddinas a’r gymuned leol, sy’n golygu y bydd myfyrwyr a pherchnogion busnes ar eu hennill.

“Ar ôl byw a gweithio ym Mangor am y rhan fwyaf o fy oes, mae gen i lawer o atgofion hapus o siopa a chymdeithasu ar y Stryd Fawr.  

“Dyma’r lle i fod ac uchafbwynt yr wythnos, felly mae’n drist bod llawer o genhedlaeth heddiw, hen ac ifanc, yn colli’r profiad siopa cymdeithasol a’r cyffro o daro i mewn i wyneb cyfarwydd – rwy’n siŵr y bydd y project hwn yn newid hynny.”

Ychwanegodd: “Ar ôl derbyn llawer o ddatganiadau o ddiddordeb am ein Talebau Sgiliau ac Arloesedd, rydym wrth ein bodd ein bod wedi cefnogi dros 40 o fusnesau hyd yn hyn ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Sir y Fflint dros yr wyth mis diwethaf.

“Rydym yn gobeithio parhau i gefnogi hyd yn oed mwy o gwmnïau o ogledd Cymru, a chydweithio â nhw wrth symud ymlaen.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd | Prifysgol Bangor neu e-bostiwch siv@bangor.ac.uk.

Am fwy o wybodaeth am MPW Making Places Work ewch i’r wefan neu Facebook


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.