14.7 C
Llanelli
Friday, September 18, 2026
Home Newyddion Lle Mae dros 50% o drenau newydd sbon yn rhedeg fel rhan o...

Mae dros 50% o drenau newydd sbon yn rhedeg fel rhan o fuddsoddiad gwerth £800m

0
479
Made in Wales trains CAF
Made in Wales trains CAF

Mae dros 50% o drenau newydd sbon bellach yn rhedeg ar linellau Cymru a’r Gororau, gyda rhagor ar y gweill eleni.

Mae’r trenau newydd, y mae llawer ohonynt wedi’u gwneud yng Nghymru, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £800m gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Gan gynnig mwy o gapasiti, seddi gwell, systemau aerdymheru modern, socedi pŵer, Wi-Fi a sgriniau sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio i deithwyr, mae cwsmeriaid eisoes yn elwa ar y gwelliannau hyn.

O ganlyniad, mae dwy ran o dair o siwrneiau teithwyr yng Nghymru bellach ar drenau newydd a gwell.

Wrth siarad ar ymweliad â depo CAF lle mae rhai o’r trenau newydd sbon yn cael eu gwneud, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru:

Cabinet Secretary for Transport and North Wales, Ken Skates – CAF visit

“Mae hon yn garreg filltir bwysig ar ein cenhadaeth i drawsnewid ein rheilffyrdd.

“Mae’r trenau modern newydd sbon hyn yn trawsnewid profiadau teithwyr ar linellau Cymru a’r Gororau gyda gwasanaethau cyflymach ac amlach diolch i’n buddsoddiad digynsail o £800 miliwn.

“Mae’r dyfodol ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru yn edrych yn ddisglair ac rwy’n edrych ymlaen at roi rhagor o newyddion da ichi wrth inni barhau i redeg mwy a mwy o drenau newydd ac annog mwy o bobl yn ôl ar y trên.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.