MAE RHAGLEN brentisiaeth newydd arloesol yn hybu sgiliau ac uchelgeisiau gweithwyr adeiladu.

0
193
CDA Cambria

Lansiwyd Prentisiaeth Gradd Adeiladu gyntaf Cymru wedi’i hariannu’n llawn ym mis Medi ac mae eisoes yn helpu dysgwyr i osod y sylfeini ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Bydd y myfyrwyr yn treulio dwy flynedd yng Ngholeg Cambria cyn cwblhau’r ddwy flynedd olaf ym Mhrifysgol Wrecsam.

Yn cynrychioli rhai o brif gwmnïau’r sector, ac ystod eang o feysydd masnach – o beirianneg sifil i reoli safleoedd, arolygu meintiau a mwy – maen nhw’n dysgu wrth weithio ac yn cael cymorth academaidd ar safle Ffordd y Bers Cambria yn Wrecsam ar yr un pryd.

Ymhlith y grŵp o 56 mae Adam Wynne, Swyddog Cydymffurfio â Chontractau Cyngor Wrecsam, a dreuliodd dros 20 mlynedd yn y crefftau cyn ymuno â’r awdurdod lleol.

“Roeddwn i’n saer coed gyda fy musnes fy hun cyn i mi ddechrau’r swydd hon ac roeddwn i eisiau her newydd a fyddai’n defnyddio’r profiad hwnnw ac yn caniatáu imi symud ymlaen yn fy ngyrfa,” meddai Adam, o Goedpoeth.

“Mae’r cymhwyster yma a fy swydd gyda’r cyngor yn golygu y galla’i gymryd y cam yna, ac er bod  cymysgu gwaith a’r byd academaidd yn heriol – doeddwn i heb fod mewn ystafell ddosbarth ers amser maith! – mae wedi bod yn bleserus iawn ac yn sicrhau ein bod yn gyfarwydd â’r datblygiadau diweddaraf.”

Roedd Daniel Ashley-Cooper, Rheolwr Contractau Kingspan, Treffynnon, yn cytuno.

“Roeddwn i’n gweithio ym maes cynhyrchu am 10 mlynedd cyn symud ymlaen i’r swydd hon, felly ochr yn ochr â’r brentisiaeth gradd adeiladu rwy’n dysgu sgiliau newydd ac yn ennill profiad, a fydd yn ychwanegu gwerth at fy ngyrfa wrth symud ymlaen,” meddai Daniel, o Gaer.

“Yn ogystal â’r darlithwyr mae gennym ni fentoriaid yn ein cwmnïau ein hunain, felly mae ‘na lawer o gefnogaeth.”

Ychwanegodd Sam Doughty, o’r Wyddgrug, Rheolwr Safle dan Hyfforddiant yn Read Construction yn Wrecsam: “Roeddwn i’n newydd i’r fasnach a dechreuais y cwrs hwn ar yr un pryd ag y dechreuais fy swydd. Fy nod yw dod yn rheolwr safle cwbl gymwysedig ac rydw i ar y ffordd i wneud hynny – mae’n her dda, ac yn broses ddysgu dda.”

Yn hyrwyddwr merched mewn STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), anogodd Lilly Holt ferched ifanc eraill i ystyried gwneud cais am y rhaglen Prentisiaeth Gradd Adeiladu yn y dyfodol.

“Roedd dilyn gyrfa mewn maes sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion yn draddodiadol ychydig yn frawychus i ddechrau, ond mae llawer o rolau swydd ar gael ac rwy’n falch o fod yn chwifio’r faner dros ferched ym maes adeiladu,” meddai Lilly, o Wrecsam, Hyfforddai Masnachol yn Anwyl Homes, Ewloe.

“Rydyn ni’n cydbwyso ein bywydau gwaith gydag addysg ond mae’n llwyfan gwych ar gyfer gwella a gwneud cynnydd, ac mae ‘na gyfle i ganolbwyntio ar wahanol feysydd a chrefftau.

“Rwyf wastad wedi bod â diddordeb yn y diwydiant tai a phensaernïaeth ac yn gweld fy hun yn dod yn Syrfëwr Meintiau – bydd y cymhwyster hwn yn gam ymlaen i mi.”

Dywedodd Karl Jackson, Arweinydd Safle yn Ffordd y Bers – sydd wedi cael gweddnewidiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf – bod dysgwyr wedi elwa o’r cyfuniad o addysg ymarferol a damcaniaethol.

 

CDA Cambria

“Maen nhw’n cael hyfforddiant amser real, bywyd go iawn wrth ddysgu mewn amgylchedd ystafell ddosbarth rhyngweithiol un diwrnod yr wythnos,” meddai.

“Mae’r diwydiant yn galw am hyn, yn lleol ac yn genedlaethol, felly mae’n amser cyffrous i bobl ym maes adeiladu archwilio’r cyfle hwn.”

Mae’r rhaglenni wedi’u cynllunio i ddiwallu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau a nodir yn Fframwaith Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â gofynion y cyrff proffesiynol.

Roedd lansio’r llwybr yn ganlyniad i gydweithredu ac ymgysylltu cryf â chyrff a chynrychiolwyr perthnasol yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Cyd-fwrdd y Cymedrolwyr (JBM), Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB), a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cambria.ac.uk a Hafan – https://wrexham.ac.uk/cy/. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here