7.7 C
Llanelli
Saturday, January 24, 2026
Home Holidays Half Term Mae anturiaethau hudolus yn aros amdanoch ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Mae anturiaethau hudolus yn aros amdanoch ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

0
1766
SMALLRobin Hood and Maid Marian
SMALLRobin Hood and Maid Marian

Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw’r union le i deuluoedd sy’n chwilio am gyffro yn ystod hanner tymor mis Chwefror. O helfeydd trysor gwefreiddiol i weithgareddau creadigol ar themâu’r ddraig goch, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau amrywiaeth o brofiadau bythgofiadwy yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys, ac Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol.

Camwch i fyd herwyr ac antur yng Nghastell Caeriw gyda’r atyniad newydd Llwybr Trysor Robin Hood yn rhedeg o ddydd Sadwrn 15 Chwefror i ddydd Sul 2 Mawrth. Gyda help ffôn clyfar, bydd angen i archwilwyr ifanc ddod o hyd i allweddi cudd cyn i Siryf Nottingham cael gafael arnynt – a bydd llwyddiant yn arwain at wobr.

I’r rhai hynny sy’n barod i godi arfau, mae Criw y Forwyn Marian yn casglu’r dewr ynghyd i roi cynnig ar ymladd cleddyfau, saethyddiaeth a goroesi yn y gwyllt. Cynhelir sesiynau rhad ac am ddim ar 16, 19, 23 a 26 Chwefror am 11am, 12 hanner dydd, a 2pm.

Gall ymwelwyr hefyd brofi Cwestau Storymaster: Castell Antur – sioe ryngweithiol i’r teulu cyfan sy’n cael ei harwain gan yr awdur trochi poblogaidd Oliver McNeil ac sy’n cynnwys llais chwedlonol Tom Baker. Cynhelir y sioeau ar 24, 25, 27 a 28 Chwefror am 1pm. Pris y tocynnau fydd £6 a chynghorir eich bod yn archebu lle.

Ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys, bydd sesiynau Profwch yr Oes Haearn (10am-3pm) yn rhoi cyfle i ymwelwyr deithio’n ôl dros 2,000 o flynyddoedd ac ymgolli yng ngolygfeydd, synau a sgiliau’r gorffennol. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal rhwng dydd Mercher 19 Chwefror a dydd Sul 2 Mawrth. Byddant yn cynnwys crefftwyr medrus yn arddangos technegau hynafol, ynghyd â chyfleoedd i ymwelwyr roi cynnig ar grefftau traddodiadol a chael profiad ymarferol o sgiliau’r Oes Haearn. Gall y rhai sy’n teimlo’n anturus brofi eu sgil gyda ffon dafl, a bydd teithiau tywys dyddiol am hanner dydd yn rhoi golwg dyfnach i fyd hynod ddiddorol y Celtiaid.

Capsiwn: Ymdrochwch yng ngolygfeydd, synau a sgiliau’r gorffennol yng Nghastell Henllys.

Wrth i ddigwyddiad trawiadol Oriel y Parc, sef Parêd y Ddraig Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi, agosáu, bydd fflam creadigrwydd yn llosgi’n llachar yng Nghanolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol gydag amrywiaeth o weithgareddau ar themâu’r ddraig goch. Yn y cyfnod cyn y dathliadau, gall ymwelwyr ddilyn taith draig fach wrth iddi gychwyn ar antur o amgylch dinas leiaf Prydain, gyda diweddariadau’n cael eu rhannu’n rheolaidd ar dudalen Facebook Oriel y Parc.

I’r rhai hynny sy’n awyddus i ymuno â’r helfa, bydd Chwiliwch am y Ddraig Fach Goll yn cael ei chynnal rhwng dydd Sadwrn 22 Chwefror a dydd Sul 2 Mawrth, gan wahodd pobl ifanc i ddatrys y dirgelwch, darganfod cliwiau, ac ailuno’r ddraig fach â’i mam.

Gall artistiaid y dyfodol hefyd fod yn greadigol gyda Gwnewch ac Ewch: Penwisg y Ddraig o ddydd Sadwrn 22 i ddydd Gwener 28 Chwefror, a gall y rhai hynny sydd ag ysbryd o antur bennu eu llwybr eu hunain drwy ddylunio map trysor personol ar 26 Chwefror.

Penllanw’r dathliadau fydd ar 1 Mawrth am 2pm pan gynhelir Parêd y Ddraig Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi – arddangosiad bywiog o ysbryd cymunedol, yn cynnwys plant ysgol, grwpiau lleol, a gorymdaith hudolus gyda’r ddraig goch.

Capsiwn: Paratowch ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi gyda gweithgareddau hwyliog a chreadigol ar thema’r ddraig yn Oriel y Parc.

Yn ystod y cyfnod hwn, gall ymwelwyr hefyd edrych ymlaen at amrywiaeth o arddangosfeydd celf a digwyddiadau crefft, gan gynnwys Ffair Grefftau wedi’i Gwneud â Llaw gan Makers Bizarre ar ddydd Sadwrn 1 Mawrth (10.30am-4.30pm, mynediad am ddim). Ar y diwrnod canlynol, dydd Sul 2 Mawrth am hanner dydd, bydd Ras Beiciau Modur Sir Benfro yn dod ag arddangosiad ysblennydd o gerbydau ddwy olwyn i’r Cwrt yn Oriel y Parc, gyda phobl leol sy’n frwd dros feiciau modur yn arddangos eu peiriannau trawiadol.

Mae rhagor o fanylion am oriau agor y safle a beth sy’n digwydd ar gael yn www.castellcaeriw.comwww.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys a www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc. I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau eraill ledled y Parc ac i archebu tocynnau, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

I’r rhai hynny sy’n awyddus i barhau â’u hantur y tu hwnt i’r digwyddiadau cyffrous hyn, mae’r Parc Cenedlaethol yn cynnig sawl ffordd o archwilio ei dirweddau anhygoel. Dewch o hyd i lwybrau hardd ar droed gyda detholiad o lwybrau trawiadol ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/cerdded-yn-y-parc/teithiau-gwe, neu defnyddiwch yr offer cymorth symudedd, gan gynnwys cadeiriau olwyn y traeth, sydd ar gael mewn gwahanol leoliadau ledled y Parc. Ewch i www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/mynediad-i-bawb/cadeiriau-olwyn-y-traethau i gael rhagor o wybodaeth.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.