Cymru ar flaen y gad o ran cenhadaeth ynni glân y DU.
Y Gweinidog yn tynnu sylw at adnoddau naturiol Cymru, ei sector ynni o’r radd flaenaf, a’i gweithlu medrus ar ymweliad â Denmarc.
Bydd ehangu’r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn helpu i sbarduno twf economaidd a gwneud y DU yn archbŵer ynni glân.
Yn ystod ei thaith fasnach i Copenhagen yr wythnos hon, fe wnaeth y Fonesig Nia Griffith, Gweinidog Swyddfa Cymru, dynnu sylw darpar fuddsoddwyr a chwmnïau o Ddenmarc at rôl allweddol Cymru yng nghenhadaeth ynni glân uchelgeisiol y Deyrnas Unedig.
Cynhaliwyd ymweliad tri diwrnod y Fonesig Nia â phrifddinas Denmarc wythnos yn unig ar ôl cyhoeddi cytundeb buddsoddi mawr gwerth £600m mewn prosiectau ynni gwyrdd yng Nghymru – rhwng Partneriaid Seilwaith Copenhagen, Bute Energy a Green GEN Cymru. Y bwriad yw y bydd datblygiad ffermydd gwynt ar y tir newydd Bute Energy ar hyd a lled Cymru yn creu hyd at 2,000 o swyddi.
Roedd yr ymweliad yn tynnu sylw at y cydweithio rhwng Cymru a Denmarc ar brosiectau ynni adnewyddadwy – gan gynnwys cwmnïau o Ddenmarc sydd eisoes yn buddsoddi mewn ynni gwynt ar y môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru, ac yn y gwaith o adeiladu tyrbinau a ddefnyddir mewn prosiectau ar y tir ac ar y môr ar hyd a lled Cymru.
Ar hyn o bryd, mae 50 y cant o’r trydan yn Nenmarc yn cael ei gyflenwi gan ynni gwynt a solar, ac mae gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân yn un o brif genadaethau Llywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y diwydiant i ddatblygu gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd. Byddai hyn yn golygu adeiladu tyrbinau gwynt ar lwyfannau arnofiol i fanteisio ar gyfeiriad y gwynt, a byddai’n chwarae rhan hollbwysig yng nghenhadaeth Llywodraeth y DU i wneud Prydain yn archbŵer ynni glân.
Wales Office Minister Dame Nia Griffith with His Majesty’s Ambassador to Denmark Joëlle Jenny
Gallai’r dechnoleg hon gefnogi hyd at 5,300 o swyddi newydd a chynhyrchu hyd at £1.4bn ar gyfer economi’r DU, gan helpu i sbarduno twf economaidd a chodi safonau byw fel y nodir gan Lywodraeth y DU yn ei Chynllun ar gyfer Newid.
Yn ystod ei hymweliad, cynhaliodd y Gweinidog Griffith gyfres o gyfarfodydd gyda’r nod o hybu cydweithrediad ym maes ynni glân ac archwilio cyfleoedd buddsoddi. Roedd yr amserlen yn cynnwys ymweliadau â chwmnïau a sefydliadau blaenllaw yn Nenmarc, trafodaethau ynghylch prosiectau ynni adnewyddadwy, a chymryd rhan mewn digwyddiadau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda ffocws ar hyrwyddo Cymru fel canolbwynt ar gyfer arloesi ym maes ynni glân.
Dywedodd Nia Griffith, Gweinidog Swyddfa Cymru:
”Mae cyfleoedd gwych i bartneriaid a buddsoddwyr yn Nenmarc weithio gyda ni i roi hwb i’r sector ynni glân yng Nghymru.
”Rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth ynni glân a fydd yn rhoi sicrwydd ynni, yn lleihau biliau ynni, yn creu swyddi da, ac yn helpu i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag costau’r newid yn yr hinsawdd.”
Dywedodd Tim Morris, Pennaeth Cyfathrebu Associated British Ports:
”Mae porthladdoedd yng Nghymru a Denmarc yn rhannu’r uchelgais i chwarae rhan sylfaenol wrth alluogi’r trawsnewidiad egni.
”Roedd yn wych eistedd i lawr gyda gweithredwyr porthladdoedd eraill a rhanddeiliaid allweddol o’r sector ynni ehangach o’r ddwy wlad i rannu gwybodaeth a mewnwelediadau. Mae gan ABP gysylltiadau cryf â sefydliadau Denmarc fel Orsted a Phorthladd Esbjerg ac edrychwn ymlaen at ddyfnhau’r perthnasoedd hyn.”
Roedd yr ymweliad yn dangos potensial Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy – yn enwedig mewn gwynt arnofiol ar y môr – ac yn gosod y llwyfan ar gyfer cyfleoedd i gydweithio a buddsoddi yn y dyfodol, a fydd yn sbarduno twf economaidd a chynaliadwyedd amgylcheddol.
[donate]
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.
If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.
We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.AcceptPrivacy Policy